YNADLYS PWLLHELI.
Cynhaliwyd ddydd Mercher gerbron Mri. J. G. Jones, Maurice Jones, Claud Lloyd Edwards, Dr. S. W. Griffiths, Dr. Gwenogfryn Evans, W. Thomas, W. W. Griffiths, J. Hughes Parry.DIRWY DROM AR AMAETHWR.
Cyhuddwyd Hugh Roberts, Felin Penllechog, o barhau i gyflogi ei fab, Thomas Roberts, pan yr oedd yn agored i wasanaeth milwrol.Dywedodd Lieut. Davies fod esgusodiad y mab wedi dod i fyny er mis Ebrill, ac ni chafodd estyniad. Anfonwyd dau rybudd yn ei alw i fyny. Aeth i ymuno pan gafodd yr ail rybudd. Dywedodd y diffynydd nad oedd yn deall beth basiwyd yn y Llys Sirol pan wnaeth apel yno. Dywedodd y Cadeirydd fod y fainc yn teimlo y dylai y wlad ddeall eu bod yn cyflawni trosedd difrifol wrth gyflogi dynion oedd yn agored i wasanaeth milwrol.
Yr oeddynt yn dirwyo Hugh Roberts i 1p 1s a 10s 6c o gostau.
Yr Herald Gymraeg 12/09/1916
Y DEWR YN CWYMPO.
Derbyniwyd newyddion pruddaidd iawn yn yr ardal uchod yn ystod yr wythnos ddiweddaf.Daeth hysbysrwydd fod bachgyn ieuainc mwyaf obeithiol yr ardal wedi syrthio yn y frwydr fawr yn Ffrainc, sef Private Tommy Roberts, mab Mr a Mrs Hugh Roberts, y Felin, Llanaelhaiarn, 29 mlwydd oed, bachgen prydweddol a phrydferth ei rodiad.
Yr oedd yn aelod defnyddiol yng Nghapel y Babell. Bydd cornel fach o dir yr estron yn gysegredig iawn i drigolion Llanaelhaiarn.
Yr Herald Gymraeg 31/07/1917
SYRTHIO AR FAES Y GWAED.
Drwg iawn genym fel ardalwyr fod y bechgyn ieuainc Thomas Roberts, Felyn, a Richie Evans, Voelas Terrace, wedi syrthio ar faes y gwaed yn Ffrainc. Yr oedd gair da gan bawb i'r ddau.Dymunwn oreu Duw i'r ddau deulu yn eu profedigaethau chwerwon.