DYRCHAFIAD MILWROL.
Da genym longyfarch Major Thomas Richard Evans, mab Mr Hugh Evans, Galltraeth, gynt o Dafarn Newydd, Llanaelhaiarn, ar ei ddyrchafiad yn Commandant yn y fyddin.Mae iddo frawd, Private Frank Joseph Evans, wedi bod trwy y Dardanelles a'r Aifft, ac wedi ei glwyfo bump o weithiau.
Yr Udgorn 18/04/1917
LLANAELHAIARN ENNILL Y D.S.O.
Derbyniodd perthynasau y diweddar Lieut. Colonel T. R. Evans, R.W.F. (gynt o'r ardal hon), y newydd o'r Swyddfa Ryfel iddo ennill y D.S.O. am wrhydri ger Cambrai ym mis Medi, 1918.Cwympodd Col. Evans yn y mis Hydref dilynol.
Yr oedd yn un o'r bechgyn mwyaf talentog a fagodd yr ardal. Yr oedd wedi ennill y radd o B.A. yn Athrofa Llundain; yr oedd hefyd yn fardd a llenor gwych ennillodd dair o gadeiriau ac hefyd luaws o wobrwyon eisteddfodol pwysig mewn barddoniaeth a llenyddiaeth.
Yr oedd yn fab i Mr. Evans, gynt o'r Dafarn Newydd. Llanaelhaiarn, ac yn hen ddisgybl i Mr. John Roberts, yr ysgolfeistr.
Yr Herald Gymraeg 24/06/1919
Lt Col Thomas Richard Evans 1884-1918.
Mab Hugh Evans, torrwr cerrig, Galltraeth a Mary Evans, gynt o Dafarn Newydd, Llanaelhaearn, yr oedd yn nai i’r Parch R. Evans ficer Llanidan Ynys Mon.Yr oedd wedi graddio ym Mhrif Ysgol Llundain ac fe ddaliai swydd bwysig gyda’r Gwasanaeth Sifil yn Llundain. Yr oedd yn fardd a dramodydd ac yn ystod ei gyfnod yn Llundain ‘roedd wedi ennill tair cadair eisteddfodol.
Pan dorrodd y rhyfel allan yn 1914 ymunodd gyda’r fyddin, gyda chatrawd y Royal Welsh Fusiliers, yn 1916 cafodd ei ddyrchafu yn Major ac yn Ebrill 1917 cafodd ddyrchafiad eto i Lieutenant Colonel. Erbyn Medi 1918 yn oedd yn arwain y 1/6 North Staffordshire Regiment yn ymosod ar linell Hindenburg ger Cambrai yng Ngogledd Ffrainc. Ar y 29 o Fedi cafwyd llwyddiant yn erbyn yr Almaen gyda lluoedd Prydain, Ffrainc a’r Unol Daleithiau yn torri trwy linell Hindenburg, amddiffyniad olaf yr Almaen .
O fewn wythnos ‘roedd llinell Hindenburg prif amddiffyniad yr Almaen ar y ffront Gorllewinnol wedi ei chwalu a miloedd o Almaenwyr wedi eu dal yn garcharorion, ond er y llwyddiant cafodd Lieutenant Colonel Thomas Richard Evans ei ladd yn y brwydro ar y 3ydd o Hydref 1918 diwrnod yn unig cyn i’r Almaen ofyn am gadoediad ar y ffrynt Gorllewinnol, ar y 4ydd o Hydref ac ar yr 8ed o Hydref gorchmynnwyd byddinoedd yr Almaen i gyd dynnu yn ol o Ffrainc. Gyda’r cadoediad terfynnol fis yn ddiweddarach ar 11/11/1918.
Am ei ddewrder a’i arweiniad ar faes y gad derbynniodd fedal D S O y Distinguished Service Order.
Mae wedi ei gladdu ym mynwent Bellicourt British Cemetry yn Ffrainc. Rhif 111 D 5.