MARW YN IEUANC.

Dydd Mawrth, yr 11eg o'r mis hwn, bu farw Mr. William Parry, Tyfry, yn yr oedran cynar o 26ain mlwydd.

Gwasanaethai ar y mor, a daeth adref am ychydig seibiant rai wythnosau yn ôl, ef a'i frawd, Mr Richard Roberts a chafodd y ddau afiechyd trwm, a bu yr ergyd yn ormod i William.

Claddwyd y rhan farwol ohono yn Hen Gladdfa; St. Hywyn y dydd Sadwrn dilynol. Gwasnaethwyd yn y tŷ gan y Parch. R. Conway Pritchard, ac yn yr Eglwys ac ar lan y bed gan y Parch T. E. Owen, M.A.

Cydymdeimlir yn fawr a'r tea.uoedd yn eu profedigaethau, yn arbenig Mr. Richard Roberts, Tyfry yr hwn sydd yn wael.

Yr Herald Gymraeg 25/02/1919