MILWROL.

Beth amser yn ôl hysbyswyd fod Mr Arthur Wilson Roberts, unig fab Mr a. Mrs Wilson Roberts, Nythfa, Edeyrn, wedi ei glwyfo ac ar goll yn y Dardanelles.

Da genym ddeall fod Mr Roberts yn awr yn gwella yn foddhaol mewn ysbytty yn Alexandria, ac y bydd iddo ddod trosodd i Loegr cyn bo hir.

Bu iddo ymuno a'r fyddin yn Awstralia er amddiffyn gwlad ei dadau.

Bu yn ymladd am rai misedd yn y Dardanelles, ac anafwyd ef yn dost yn ei gefn, a buwyd am beth amser heb wybod dim o'i helynt.

Deallwn fod ganddo ddau gefnder, sef Tom a William Wilson Roberts, bechgyn i frawd ei dad o Lerpwl, yn ymladd gyda'r King's Liverpool yn Ffrafnc er toriad allan y rhyfel.
 

Yr Herald Gymraeg 29/06/1915