CWYMP ANGEUOL MORWR IBUANC.
Ddydd Mawrth cyrhaeddodd hysbysrwydd i'r dref fod y llanc hynaws Mr John Owen, 18 mlwydd oed, nai i Mrs Jones, Vigilant, wedi syrthio yn y llong yn Llundain a cholli ei fywyd.Mab ydoedd yr ymadawedig i Mr a Mrs William Owen, Bryngoleu, Edeyrn.
Bu yn gwasanaethu yn masnachdy Mr Isaac M. Anthony, Manchester House, hyd tua dwy flynedd yn ôl pryd yr aeth i wasanaethu ar y môr. Gwyleiddied oedd ei natur fel y gwnaeth gylch o gyfeillion pur iddo ei hun yn y dref, a bydd ei noswyliad cynar yn loes drom iddynt. Dygwyd ei weddillion adref i Edeyrn prydnawn Sadwrn, a chymerodd y gladdedigaeth le yno ddydd Llun diweddaf, yr hon oedd yn lluosog a phoblogaidd iawn. Gwasanaethwyd gan y Parch. John Hughes, Edeyrn.
Cydymdeimlir yn fawr â'r teulu oll yn eu galar o golli un mor addfwyn.