GARNFADRYN MARW.
Derbyniwyd newydd am farwolaeth Mr. J. R. Roberts (gynt yng ngwasanaeth Mr. R. E. Roberts, Meirion House, Llangollen) yn Salonica.Yr oedd yn 39 mlwydd oed ac yn uchel ei barch. Bu yn un o ysgrifenyddion Eisteddfod y Calan a gynhaliwyd gan y Methodistiaid Calfinaidd ac yn ysgrifennydd yr Ysgol Sul.
Genedigol oedd o Benygroes, a bu'n byw yn Llaniestyn.
Oddeutu dwy flynedd yn ôl ymunodd a'r A.S.C., a bu yn Salonica am rai misoedd. Bu farw o'r malaria, ar y 20ain o Orffennaf.