DINAS LLEYN MARW O'I GLWYFAU.
Nos Lun brawychwyd yr ardal pan ddaeth y newydd fod Pte. Evan Owen, Tanffynon, wedi marw o'i glwyfau yn Ffrainc.Torwyd ei goes pan oedd yn ymladd a'r gelyn ddechreu flwyddyn a throes hynny yn angeuol iddo.
Chwith gennym feddwl am dano, yn fachgen ieuanc 19eg oed wedi ei dori i lawr yn anamserol. 'Roedd yn adnabyddus i lawer yn y cylch. Byddai hefo ei frawd, Mr. Daniel Owen, contractor, yn dysgu fel saer. 'Roedd gyrfa ddisglaer o'i flaen. Mae tri o'i frodyr eto yn gwasanaethu ei gwlad.
Cydymdeimlwn yn fawr a'i dad sydd wedi myned i oed mawr, a'i frodyr a'i chwiorydd yn eu profedigaeth.