CLADDEDIGAETH.

Dydd Mercher claddwyd gweddillion Mrs. Jane Jones, London House, gweddw Mr. W. M. Jones, yng nghladdfa y teulu yn Ynyscynhaiarn. Gwasanaethwyd wrth y tŷ gan y Oarch Wm. Williams, gweinidog y Capel Mawr, lle yr oedd yr ymadawedig yn aelod parchus, ac yn y fynwent gan y Parch. Pierce Owen (curad).

Yr oedd yr ymadawedig yn 80 mlwydd oed. Cydymdeimlir a'i hunig ferch a'r tri mab, yn eu profedigaeth. Y rhai canlynol oedd bresenol yn yr angladd : Miss M. G. Jones (merch); Mri. Thomas Pugh Jones, John Alun Jones ac R. P. Jones (meibion); Mri. Peter Pugh, Farm Yard, Tremadog, Richard Pugh, Penmount, a John A. Pugh, Portreuddyn (cefndryd); Mri. R. T. Pritchard a John THomas, diaconiaid y Capel Mawr, a Mr. John Humphreys, cyfreithiwr.

Herald Gymraeg 03/02/1914