MARWOLAETH.

Ychydig o ddyddiau fu Mr. John Williams, Carpenter fyw ar ol claddu ei briod. Ar ol marw Mrs. Williams teimlai yr hen gyfaill nad oedd ganddo ddim yn aros yn y byd hwn gwerth byw er ei fwyn, torrodd ei galon ac aeth ymaith mewn hedd ar yr 28ain cyfisol yn 81ain mlwydd oed.

Brodor o ardal Nazareth, Llanllyfni, oedd efe. Symudodd pan yn ieuanc i Borthmadog lle yr ymbriododd a merch i Mr. Thomas Owen, Carpenter, Garth. Bu yn briod am tua 60ain mlynedd. Ni chafodd nemawr addysg, ond gallai ysgrifenu Cymraeg gweddol dda, a daeth yn draethodwr galluog, gan gystadlu yn y cyfarfodydd llenyddol ac enill llawer o wobrwyon. Ystyrid ef yn alluog fel meddyliwr diwynyddol, yr oedd yn gyfarwydd iawn yn yr ysgrythyrau, yn weddiwr nerthol, ac yn siaradwr dawnus anghyffredin ar faterion crefyddol.

Aeth ef ac eraill o Salem yn 1879 i sefydlu eglwys yn y Capel Coffa a gwnawd ef yn flaenor. Llanwodd gadair Cyfundeb Anibynol Lleyn ac Eifionydd, ac yr oedd ganddo Feddwl mawr o'r cyfundeb hwnw.

Yr oedd yn hoff iawn o gerddoriaeth, a gallai ganu yn soniarus iawn.

Bu yn adeiladydd llongau, yn cadw cweffylau a throliau, ac yn cadw barcdy hefo'r diweddar Mr. Owen Hughes, yn y Borth.

Cludwyd ei weddillion i gladdfa Drefol Porthmadog, ddydd Mercher, a gosodwyd hwynt i orwedd yn yr un bedd a gweddillion Mrs. Williams - Rhisirat o Fadog.