GWAEDU I FARWOLAETH.
Nos Fercher, digwyddodd damwain i Robert Pugh, 19 mlwydd oed, mab hynaf Mr. Peter Pugh, Farmyard Farm, Porthmadog. Yr oedd yn codi gwn wedi ei lenwi oddiar eithinen. Bachodd y gwn yn yr eithinen ac aeth yr ergyd allan a thrwy ei glun. Yr oedd dau o'i gyfeillion gyda Pugh a cheisiodd un atal ei waed, tra yr aeth y llall am y meddyg.Bu dau feddyg gyda Pugh nos Fercher, ond er gwaethaf pob meddyginiaeth bu farw foreu Gwener, fel canlyniad colli gwaed.
Cynhaliwyd cwest ar y corph ddydd Gwener o flaen Mr. Robyns Owen. Bwriwyd mai damwain oedd, a phasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a'r teulu.
Cymerodd yr angladd (cyhoeddus i ddynion yn unig), le brydnawn Sadwrn. Yr oedd yn un o'r rhai mwyaf welwyd yn y gymdogaeth. Y Parch. J. Bennet Williams, a wasanaethai.