MARW.

Bu farw Mr. Henry Jones, glo fasnachydd, gynt o Borthmadog, ag efe yn 69ain mlwydd oed.

Symododd i'r ardal hon o Borthmadog oddeutu dwy flynedd a hanner yn ol at ei ferch, sef Mrs. R. H. Owen, baker. Bu ei briod, Mrs. Jones, farw oddeutu pedair blynedd yn ol. Oddeutu haner blwyddyn yn ol symudodd ef a'r teulu i Gaernarfon, ac yno y bu ein hen gyfaill diddan farw.

Wele bellach bump o'r plant yn amddifad o dad a mam, sef Mrs. Laura Owen, Mrs. Ifor Jones, Woodville, Llanberis; Mrs. Roberts, Ffestiniog; Miss Annie Jones, Bangor; a Mr. John Henry Rees, Penrhyndeudraeth. Yr oedd yn angladd cyhoeddus ym Mhorthmadog, a daeth llu o hen gyfeillion iddo ynghyd.

Gwasanaethwyd wrth y bedd gan y Parch. W. J. Nicholson, yr hwn ddywedodd eu bod yn priddo gwr caredig a chymwynasgar iawn. Dyna ddywedai pawb amdano. Trwy ei natur garedig a chymwynasgar, gwnaeth golled lawer iddo ef ei hun. Yr oedd ei weithredoedd caredig yn arogli yn beraidd heddyw, ddydd ei angladd. Yr oedd ei dduwioldeb yn llifo allan yn ffrwd loew trwy gynorthwyo eraill. Crefydd da yw crefydd yr helpu.

Herald Gymraeg 07/07/1914