DIWEDD ALAETHUS MASNACHWR O BORTHMADOG.

LLYTHYR PRUDD I'W BRIOD. Crewyd cyffro mawr ym Mhorthmadog ddydd Mercher, gan y newydd fod corff Mr. William Henry Evans, draper, High Street, wedi ei gael ar ochr y ffordd rhwng Chwilog a Llanystumdwy.

Yr oedd yr ymadawedig yn wr pur adnabyddus yn y dref a'r sir, yn Eglwyswyr blaenllaw, ac yn Geidwadwr aiddgar. Yr oedd yn un o'r Cymru fu'n anerch yn yr ymgyrch fawr yn Hyde Park yn erbyn Mesur Dadgysylltiad, ac yr oedd galw mawr am ei wasanaeth i'r Blaid. Yr oedd hefys yn weithiwr aiddgar yn Eglwys St. John. Yn arolygwr yr Ysgol yno ar hyn o bryd. Yr oedd hefyd yn aelod o gymdeithas y Seiri Rhyddion yn y dref.

Gadawodd weddw, dau o blant, mam a theulu lluosog mewn profedigaeth chwerw iawn.

Cynhaliwyd y cwest ddydd Gwener, gerbron Mr. O. Robyns Owen. Etholwyd Mr. George E. Roberts yn arweinydd y rheithwyr. Ymddangosai Mr. Charles E. Breese ar ran y teulu a Mr. William George ar ran Mr. H. Haigmes, partner yr ymadawedig ynglyn a rhan o'r busnes.

Eglurai y Crwner yr amgylchiadau, a dywedai nad oedd dim yn y llythyr gafwyd ym mhoced yr ymadawedig wedi ei gyfeirio i Ficer Porthmadog yn ymwneud ag achos y farwolaeth. Yr oedd yno lythyr arall wedi ei ysgrifenu i'w briod, llythyr prudd iawn. Nid oedd am ddarllen ond rhanau ohono gan fod rhai adranau yn ymwneud ag achos oedd heb ei brofi ac achos oedd yn ddiameu wedi dylanwadu yn fawr ar feddwl yr ymadawedig. Yn y llythyr rhoddai gyfarwyddiadau i'w briod ar y pa fodd i ddwyn y bechgyn i fyny ac yn dymuno droion am ei maddeuant am y weithred oedd ef ar fedr ei chyflawni. Dywedai ei fod wedi cerdded milltiroedd lawer ac wedi meddwl a meddwl nes yr oedd wedi mynd yn gwbl wallgof.

Tystiai Mr. T. Garth Jones, cyfreithiwr, Rhuthun ei fod ef yn gefnder i'r ymadawedig. Yr oedd yn 43 mlwydd oed.

Tystiai Mr. John Hughes, 2, Chapel Terrace, Criccieth, ei fod yn gweithio ar ffordd y sir y prydnawn dan sylw rhwng Criccieth a Chwilog. Gwelodd yr ymadawedig yn dod i gyfeiriad trofa yn y ffordd o gyfeiriad Chwilog. Yr oedd tua 400 llath oddiwrtho. Gwelodd ef yn troi i ffordd gul o'r ffordd fawr. Yr oedd cerbyd bara Roberts, Cybi House, Pwllheli, yn pasio ar y pryd. Clywodd y gyriedydd yn gwaeddi yn ofnadwy fod yna ddyn wedi cael gwasgfa neu rywbeth, ac na allai ei gael i ddweud gair. Gwelodd yr ymadawedig ar ei hyd ar lawr ar ddarn o dir glas o'r neilldu. Yr oedd yn fyw ar y pryd, a bu byw am tua thri munud ar ôl iddo ei gyrhaedd yno, ond ni ddywedodd yr un gair. Yr oedd yna las bychan wrth ei draed ond ni welodd y botel. Ond yr oedd yn gweled o'r cychwyn. Cafwyd y botel ar y clawdd.

Tystiai yr Heddwas Thomas, Criccieth iddo fyned i weled yr ymadawedig tua hanner awr wedi pedwar. Yr oedd dau lythyr yn ei lawysgrif ef ei hun ym mhoced yr ymadawedig, sef y llythyr i'w briod a'r llythyr i'r Ficer. Yr oedd wedi gweled y botel a'r glas ac yr oedd yr heddlu wedi methu yn lan a chael allan ym mhle y cafodd yr ymadawedig y gwenwyn. Yr oeddynt yn deall iddo fod yn Bangor a Chaernarfon y diwrnod hwnw. Ond yr oedd pob ymchwiliad yn Bangor, Caernarfon a threfi y rhanbarth deheuol wedi profi yn ddiffygiol i ddarganfod lle y cafodd y botel.

Tystiai Dr. Gladstone Jones, Criccieth iddo weled y trancedig yn gorwedd yn hollol naturiol ar ei hyd wrth ochr y clawdd. Yr oedd ychydig o prusair acid yn y botel. Yr oedd tuag owns o'r gwenwyn yn y botel ar y cychwyn, yr hyn oedd yn ddigon i ladd wyth o ddynion. Nid oedd label unrhyw fferyllydd lleol ar y botel fel y dylai fod, yn unig label y ffirm a'i gwnaeth. Yr oedd yn ddyledswydd ar bob fferyllydd i roddi label arbenig ar y botel cyn ei gwerthu ac hefyd i gael y prynwr arwyddo ei enw i gydnabod ei derbyniad.

Galwodd Mr. J. Jones Morris sylw at yr angen am well trefniant ynglyn a gwerthu gwenwyn. Credai y dylent bwyso ar i'r Llywodraeth ei wenyd yn orfodol fod y cwmniau cyfanwerthol yn gosod rhif ar y potelau ac ar y labels fel y gallent wybod ar unwaith i ba fferyllydd yr oeddynt wedi gwerthu pob potel.

Yr oedd y rheithwyr yn unfarn mai gwenwyno ei huan pan mewn cyflwr o wallgofrwydd ddarfu yr ymadawedig. Yr oeddynt yn argymhell fod y crwner i geisio cael yr awdurdodau i fabwysiadu awgrymiad Mr. Jones Morris.

Herald Gymraeg 10/03/1914