PORTHMADOG.
MARWOLAETH MR. MORRIS ISAAC.
Drwg genym hysbysu marwolaeth y gwr adnabyddus uchod, a gymerodd le, yn ei drigfan, yn Bank-place, boreu Mercher diweddaf, ac efe yn 77 mlwydd oed. Bu yn wael am rai misoedd, ond yn ddiweddar yr oedd wedi gwella i raddau, a gwelwyd ef allan yr wythnosiddiweddaf, ac felly tarawyd y dref a syndod pan y clywyd am ei farwolaeth yr adeg uchod.Efe oedd perchencg yr Union Iron Foundry, gyda'i fab, Mr Robert Isaac. Sefydlwyd y ffirm uchod, sef yr Union Iron Foundry, gyda'i fab, Mr Robert Isaac. Sefydlwyd y ffirm uchod, sef Owen, Isaac, and Owen, ers mwy na 30 o flynyddoedd, gan y diweddar Mr W. Owen, a Mr G. Owen, Brynglaslyn, a'r ymadawedig. Perthyna i'r ffowndri nifer mawr o weithwyr.
Y mae y ffirm yn enwog oherwydd patent Mr G. Owen am beiriannau naddu llechau yn y chwareli trwy holl Ogledd Cvmru.
O ran ei ddaliadau gwleidyddol, Ceidwadwr selog ydoedd, ac yn Eglwyswr. Bu hefyd gyda'r Gwirfoddelwyr am flynyddau lawer, ac fel y "Sergeant Isaac" yr adnabyddid ef yn y cylch hwnw. Yr oedd yn ddyn caredig a thawel, a haelionus i'r tlawd, a mawr berchid ef gan ei weithwyr oherwydd ei gydymdeimlad a hwy. Yn ystod yr holl flynyddoedd o wasanaeth ni fu camddealltwriaeth o gwbl.
Cymerodd yr angladd le ddydd Sadwrn, yn y gladdfa gyhoeddus, pan yr aed yno yn y drefn a ganlyn :
Cerbyd cyntaf, y Meddyg Griffith, M.D., a'r Parch LI. R. Hughes, M.A., rector; yr elorgerbyd a chwech o bearers o bobtu, yn cynnwys yr hen weithwyr, y rhai rifant oll yn yr angladd tua 50.
Cerbyd ail, Mr R. Isaac (mab) a Mr M. Isaac (wyr).
Cerbyd trydydd, Meistri W. Roberts, Caernarfon, a W. Rowlands, Llanfair (perthnasau), a Griffith Owen, Brynglaslyn (brawad).
Cerbyd pedwerydd : Meistri Ellis (rheolwr y ffirm), G. Roberts (cyfrifydd), Lloyd a D. Williams, Ivy House.
Y masnachdai oedd gauedig, a'r gorchuddleni ar ffenestri y dref oeddynt i lawr ar y pryd.