TREMADOG.
ANGLADD MR. THOMAS MORRIS.
Am un o'r gloch, daeth torf fawr ddydd Sadwrn i Church-street, at dy y trancedig. Wedi i'r Parch Thomas Owen, Garth, ddarllen a gweddio, symudwyd y corph i Gapel Peniel, ac yr oedd torf fawr, gyda'r gweinidogion a ganlyn a chyd-swyddpgion y trancedig, yn cymeryd rhan mewn gwasanaeth effeithiol iawn, gyda. Mr R. Rowlands, U.H., Penmorfa, yr hwn yr oedd yn dda gan bawb ei weled ar ol ei waeledd, a'i glywed, er yn ddrylliedig ei deimlad, yn dyweyd gair am ei anwyl gyfaill Parchn J. J. Roberts (Iolo Caex- narfan), llywydd; D. Roberts, Abererch; Thomas, Llanrwst; W. Jones, Tremadog; D."Williams, Penmorfa (yr hwn a ddywedodd) Thomas Owen, D. E. Jenkins. Griffith Parry, Borth; H. Jones, Prenteg Thomas Griffith, Bryn Melyn; John O. Jones ac Owen Thomas, Tnemadog. Arweinid gvda'r canu gan y Mri F. Buckingham, ac E Fvans, yn bur effeithiol.Yn y "dref" ac yn Mhorthmadog, pan yr ai orymdaith drwodd yr oedd gorchuddleni ar y ffenestri, a masnachdai yn gauedig.
Gorymdeithid yn y drefn a ganlyn :
Y gweinidogion, blaenoriaid, cantorion, yr elorgerbyd, cerbyd yn cynnwys yr aelodau a ganlyn o Gynghor Dinesig Ynyscynhiaiarn, o'r hwn yr oedd y trancedig yn aelod : Y Mri Jonathan Morgan Jones, K. McLean, D. Morris, W. Davies, Griffith Roberts. Yn ddilynol cerbyd yn cynnwys y meddyg, Dr Griffith, ar Parch T. Owen; wedyn cerbyd y teulu; a phump o gerbydau eraill, yn yr olaf o ba rai yr oedd Mr R. Isaac Jones (Alltud Eifiotn) Yna y cyhoedd yn gyffredinol.
Aed yn mlaen i'r gladdfa gyhoeddus, a gwnaed y gymwynas olaf, fel y sylwai un o'r gweinidogion, i un a wnaeth "ddiwrnod da o waith," ac a dreuliodd bron ei holl oes yn y dref y magwyd ef ynddi. Gweinyddwyd yn y gladdfa, gyhoeddus gan y Paroh Thomas Owen. Cyhoeddwyd y Parch W. Jones i bregethu pregoth angladdol yn Peniel nos Sul.