MARW.

Chwefror 27ain, bu farw Griffith Owen Davies, Weirgloddfawr, Tydweiliog; diweddar brif beirianydd yr ager-long "Ashonte," perthynol i Meistri Elder Demster a'i Gwrnni, Lerpwl.

Daeth gartref ychydig wythnosau yn ôl oherwydd nad oedd ei iechyd yn foddhaol, ond bu farw yn sydyn ac anisgwyliadwy yn 38 mlwydd oed.

Claddwyd ef ym mynwent Tydweiliog, Mawrth 4ydd. Angladd anghyhoedd. Cydymdemlir a'i rieni a'i briod galarus.

Genedl Gymreig 10/03/1914