Y DIWEDDAR BARCH S. P. EDWARDS, PWLLHELI.

Crybwyllwyd yn fyr yn ein rhifyn diweddaf am farwolaeth ddisyfyd y gweinidog da uchod.

Cymerodd hyny le nos Wener, Mehefin 26ain, yr hyn a barodd gyffro a syndod mawr yn y dref.

Felly hefyd yr holl wlad, yn arbenig yn mhlith enwad y Bedyddwyr. Dydd Gwener, gyda'r tren 12 o'r gloch, yr oedd yn dychwelyd adref yn ei gynefin iechyd, wedi bod yn cynnal cyfres o gyfarfodydd pregethu yn Mon ac Arfon, ac oddeutu chwech o'r gloch, odd ergyd o'r parlys, yr hyn a brofodd yn angeuol iddo ychydig fynychu wedi deg.

Brodor genedigol o swydd Gaerfyrddin oedd Mr Edwards. Yr oedd yn gefnder i'r Parch W. Edwards, D.D., prifathraw Coleg Caerdydd. Bu yn gweinidogaethu yn eglwys y Tabernacl am yn agos i ddeng mlynedd, ac enillodd serch ac ymddiriedaeth y dref yn ogystal a'i eglwys.

Arferai gymeryd rhan gyhoeddus mewn gwleidyddiaeth pan fyddai galw am hyny. Yr oedd yn arweinydd blaenllaw gyda dirwest, a phobpeth a fyddai a thuedd i godi a dyrchafu cymdeithas yn ei hamrywiol agweddau. Yr oedd yn aelod o'r bwrdd ysgol. Ond fel pregethwr yr adwaenid Mr Edwards oreu. Yn y pwlpud yr oedd ei le, a byddai yn ffres a sylweddol bob amser. Edrychid i fyny ato fel pregethwr gan oreuon pob enwad, ao ofnwn fod bwlch yn mhwlpud y Tabernacl na lenwir mohono am amser maith.

Adwaenid ef bob amser fel cymeriad yn deilwng o weinidog Iesu Grist, a phriodol y gellid dyweyd am dano "Bu fyw i farw, bu farw i fyw."

Bydd colled fawr am dano hefyd yn nghylch Cymanfa Arfon. Yn 1894 etholwyd ef yn gadeirydd y Gymanfa, a llanwodd y swydd er anrhydedd iddo ei hun, ac i'r enwad y bu yn ei wasanaethu. Drachefn yn 1896, etholwyd ef yn ysgrifenydd iddi. Cymerwyd ef oddiwrth ei waith at ei wobr yn yr oedran cymharol ieuanc o 51.

Gadawodd weddw a dau o blant i alaru ar ei ol.

Dydd Mercher y cymerodd ei angladd le, yn Tyddynshon, tua tair milldir o'r dref, yn i Fourcrosses, lle amlwg a chysegredig yn hanes y Bedyddwyr.

Daeth llu mawr yn nghyd i wneyd y gymwynas olaf iddo, o bell ac agos. Methodd eraill, ac yn eu mysg y Prifathraw Roberts, Aberystwyth, yr hwn a anfonai i ddatgan ei ofid a'i gydymdeimlad trwyadl a'r teulu a'r eglwys. Yr oedd sydynrwydd yr amgylchiad yn peri fod yn angenrherdioi i'r gweinidogion ac ereill gyfarfod i wneyd rhagdrefniadau gyda golwg ar y cylchoedd a lanwai y gwr parchedig.

Cyfarfyddwyd yn festri y Tabernacl, pan y llywyddai Mr J. Rees, Caernarfon, ac y gweithredai y Parch J. Griffiths, Llanfairfechan, fel ysgrifenydd. Pasiwyd yn unol bleidlais o gydymdeimlad a'r teulu, ac fod y Parch J. Frimpton, Talysarn, i gymeryd cofnodiad o fanylion yr angladd, er ei gyhoeddi, ac i'r Parch J. Griffiths i barhau i weithredu yn lle yr ymadawedig fe1 ysgrifenydd Cymanfa Arfon i orphen y flwyddyn.

Y Parch o. Davies, D.D., Caernarfon, a awgrymai a phasiwyd yn unol, i anfon at yr eglwysi ddymuniad arnynt i ganiatau i'w gweinidogion i lanw pwlpud y Tabernacl am gyfnod yn rhad, er galluogi yr eglwys i barhau y cyflog at gynnal y teulu profedigaethus. Gwasanaethwyd yn yr angladd wrth y ty ac yn y fynwent gan y rhai a ganlyn :
Y Parchn O. Davies, D.D., J. Frimston, H. Hughes, Llanaelhaiarn; J. Griffith, E. Williams, Rhosllanerchrugog; yr Athraw Morris, Bangor; a D. Davies (Dewi Eden), Harlech.

Yn mhlith ereill oedd yn yr angladd sylwasom ar y Parchn E. T. Davies, B.A. (Dyfrig), rheithor; J. Ellis (M.C.), J. J. Williams, LLanllyfni; A. Morris, Calfaria, Ffestiniog; J. Roberts, Pontllyfni; R. Jones, Caernarfon, y Mri Evans (o ffirm Evans a Lake), J. Rees, Caernarfon; Richard Williams, Garn; W. George, Criccieth; A. Phillips, R. J. Williams, J. N. Edwards, Blaenau Ffestiniog.

Yr Herald Gymraeg 06/07/1897