MARW.
Blin gennym gofnodi marwolaeth Mr. Griffith Roberts, brawd i Mrs. Thomas, Bwlchyffordd, yr hyn a gymerodd le y nos Sul o'r blaen, 31ain cynfisol, yn Ysbyty Caernarfon, ac efe yn 57 mlwydd oed, wedi cystudd maith a. chaled, yr hwn a ddioddefodd yn dawel.Bu yma yn aros am amser maith er ceisio gwellhad, ac yr oedd yn boblogaidd gyda phawb a ddeuent i gyffyrddiad ag ef. Yr oedd yn ŵr llawn ymhob ystyr. Treuliodd oes hardd yn ffyddlon i'r pethau goreu, a gadawodd argyhoeddiad yn meddwl pawb o'i gydnabod ei fod yn meddu ar y grefydd bur.
Cymerodd ei angladd le ym Mhenrhos, ddydd Iau, 4ydd cyfisol, pryd y gwasanaethwyd gan y Parch. Thomas Williams, The Elms, Pwllheli (anghyhoedd ydoedd).
Yr oedd y personau a ganlyn yn bresennol — Mr. Owen Roberts (brawd); Mr. a Mrs. Thomas Rees Thomas (chwaer); Miss Blodwen Rees Thomas, Mr. Evan Rees Thomas, Tyddyn Cestyll; Mri. Owen Williams, Tanybraich, Caernarfon; Wm. Hughes, Caxton House, Pwllheli; John Jones, Ty-newydd, Criccieth ac Owen Jones, Tyddyn Llewelyn, Penrhos.