ANGLADD.

Dydd Llun, yr 2ail cyfisol, hebryngwyd yr hyn oedd farwol o Mr. J. Williams, Tanybryn, i orphwys yn mynwent Penrhos, yn yr oedran cynar o 30. Cafodd gystudd maith.

Yr oedd yn ŵr ieuanc o gymeriad da. Anghyhoedd ei angladd, yr hwn oedd wedi ei drefnu ganddo ef ei hun.

Gwasanaethwyd yn y tŷ ac wrth y bedd gan y Parchn. R. Roberts, Efailnewydd, a Thomas Williams, Pwllheli.

Cydymdeimlir a'r teulu yn eu profedigaeth chwerw.

Yr Udgorn 04/12/1918