EFAILNEWYDD. MARWOLAETH.
Ddydd Gwener, yn nhy ei chwaer yng Nghaernarfon, yn dra sydyn, bu farw Mr John Hughes, gynt o Dy'nyffordd, ac efe yn 72 mlwydd oed.
Cymer y gladdedigaeth le, yr hon fydd anghyhoedd, ddydd Mercher yn mynwent Penrhos.
Yr Udgorn 02/10/1918