MARW'R PARCH JOHN JONES.

Gofidus genym gofnodi marwolaeth y Parch John Jones, Cadlan Isaf, Pencaerau (gynt o Bwl- an), yr hyn a gymerodd le ddydd Mawrth diweddaf. Yr oedd yr ymadawedig yn adnabyddus i gylch eang yn Lleyn ac Eifionydd. Bu am beth amser yn weinidog yn Ynys Enlli.

Yr oedd yng Ngholeg y Bala 'run amser a nifer o weinidogion adnabyddus perthynol i'r Methodistiaid, yn eu mysg y Parchn D. O'Brien Owen, D. R. Griffith, J. Puleston Jones, M. A, a'r diweddar S. T. Jones, yr hwn a gladdwyd yn Edeyrn ddydd Gwener, yr un diwrnod ag y claddwyd y Parch John Jones.

'Roedd y diweddaf yn cymeryd rhan yn y cyfarfodydd diolchgarwch ym Mhencaerau ddydd Llun, a'r Sul blaenorol 'roedd y Parch S. T. Jones yn pregethu yng Nghaergybi, ac erbyn y nos Wener dilynol 'roedd y ddau yn eu bedd.

Hebryngwyd gweddillion y Parch John Jones i Fynwent Penrhos, Pwllheli. Y prif alarwyr oeddynt y Mri William Jones, Pwllheli; Griffith Jones, Caernarfon, a Robert Jones, Llanfair P.G. (brodyr); Miss Jones, Ty Mawr (chwaer); y Parch Edward Williams, B.A., B.D.. a Mr W. Jones Williams Caernarfon (neiod); Misses Williams (nithod); a'r Caplan David Morris Jones, M.A., B.D., Mr W. T. Williams, Bodfean (brawd-yng-nghyfraith) Edward Williams, Llaethai, ynghyd a Mr Morris Hughes (gyda'r hwn yr arhosai yr ymadawedig).

Gwasanaethwyd wrth y tŷ, Cadlan Isaf, gan y Parchn D. O'Brien Owen, David Roberts, Abererch, D. R. Griffith. a J. Puleston Jones, a Mr John Griffith, diacon hynaf Pencaerau.

Yn y fynwent gwasanaethwyd gan y Parch J. Puleston Jones a'r Parch David Roberts. Nos Lun traddodir pregeth angladdol ym Mhencaerau gan y Parch D. Foulkes Roberts, Rhydbach.

Dymuna y teulu ddatgan eu diolchgarwch gwresocaf i'r cymydogion yn gyffredinol am y cydymdeimlad a'r caredig rwydd neillduol a ddangoswyd ganddynt yn yr amgylchiad presennol.

Yr Herald Gymraeg 23/10/1917