ANGLADD CAPTEN D. HUGHES.

Dydd Mercher hebryngwyd gweddillion Capten David Hughes. 17. Ala Road. i fynwent y Capel Penrhos.

Yr oedd yn bresenol Miss Hughes a Mrs Williams (merched) Mrs Jones a Mrs Griffith (chwiorydd); Dr. Edward Hughes, Tonpentre; Mr R. Hughes, Edinburgh; Dr. Hughes. Penclawdd; Mr 'Griffith. Brynllwyd. Mon; Mri Robt. a Richard Jones.Ty'r Ynn. ac O. Jones. Tyddyn Hir (brodyr ynghyfraith); Thomas ac Owen Jones. Caerferch (neiod): Mr Griffith. Ynys-creiau (brawd-ynnghyfraith): Mr T. Rowlands. LIanerch. a Mr Emrys Williams. Trefor,(wyr): Dr. O. Wynne Griffith. Plastan-'rallt. Gwasanaethwyd yn y tŷ ac wrth y bedd gan y Parch T. Williams. Pwllheli.

Cynhaliodd aelodau Ysgol Sul Cartrefle gyfarfod coffa am dano foreu Sul a thalwyd teyrnged o barch i'w gofadwriaeth fel cymeriad rhagoroI. Siaradwyd gan Miss Jones. Caroline House; Mri G. Roberts, ceidwad y tŷ, Robert Roberts. New Street; David Griffith. Hirwaen House a J. O. Jones. Pretoria. a'r arolygwr.

Diolchwyd i Mrs Griffith. Hirwaen House, am wneyd blodeudorch mor hardd i'w ddodi ar ei fedd.

Yr Herald Gymraeg 18/09/1917