MARWOLAETH DRIST.
Brawychwyd yr ardal dawel hon fore Llun gan y newydd trist fod Mrs Williams (priod y diweddar Mr R. Francis Williams, Roslyn), wedi marw yn hynod sydyn yn nhy ei chwaer yn Lerpwl, lle yr oedd wedi myned i aros am ychydlg, a hi yn 28 mlwydd oed.Yr oedd y ddiweddar Mrs Williams yn foneddiges anwyl a hoff, a'i phersonoliaeth hardd yn denu y lluaws i'w hanwylo yn angerddol.
Chwith meddwl fod y weddw dyner wedi huno mor gynar yn angau.
Yr Udgorn 24/01/1917
CLADDEDIGAETH.
Fel y crybwyllasom yr wythnos ddiweddaf am farwolaeth y foneddiges dirion a hoff, Mrs Williams (priod y diweddar Mr R. Francis Williams, Roslyn), cymerodd ei chladdedigaeth le ddydd Gwener yn mynwent Penrhos. Cludwyd ei gweddillion marwol ddydd Iau mewn Motor Hearse o Lerpwl.Gwasanaethwyd yn y tŷ a'r fynwent gan y Parch. Robert Roberts. Angladd anghyhoedd.
Yr oedd yn bresenol yn yr ang!add :— Mrs. Davies (chwaer) a'i phriod, Lerpwl; Miss Davies (chwaer), Lerpwl; Mr. Pritchard (cefnder), Lerpwl; Mr. R. Lewis Jones (brawd-yn-nghyfraith), Groeslon; Mr. W. J. Williams (brawd-yn-nghyfraith); Miss Sara E. Williams a Mrs. Mary A Jones (chwiorydd-yn-nghyfraith); Miss Jones (cyfnither), Edeyrn; Mr. G T. Evans. Rhydhir; Mr. William Hughes, Ty'nyffordd; Mr. W. Hughes, Joiner.
Cydymdeimlwn yn ddwys a'r teulu lluosog yn eu galar a'u hiraeth dwfn o golli un mor anwyl dan amgylchiadau mor drist.