LLYS MAN-DDYLEDION PWLLHELI.
Cynnaliwyd yr uchod dydd Mawrth, ger bron y Barnwr William Evans.Cadwraeth Plentyn Anghyfreithlawn.
Hawliai Hannah Williams, Llaindelyn, 17p. 8s. 0c. oddi ar G. Roberts, Tanybryn, Rhydyclafdy, dros yr hwn yr ymddangosai Mr. Caradoc Davies. Mr. O. Robyns oedd twrnai yr hawlyddes.Yr oedd M. Williams wedi rhoddi genedigaeth i faban yn 1901, a'r diffynydd meddai hi, oedd ei dad. Addawodd efe, i ddechreu, ei phriodi, ac yna, newidiodd ei feddwl, gan ddyweyd y talai am gadw y plentyn, ond ni wnaeth. Yna cododd hi wys yn ei erbyn.
Fodd bynag, daeth efe ati, ac erfyniodd arni i beidio dadlenu yr helynt, a chyttunodd i dalu yn ol 2s. yr wythnos. I'w rhieni hi y talai efe, a gwnaeth hyn yn rheolaidd hyd 1908, pryd y daeth y taliadau yn anfynych. Ni chadwyd cyfrif ysgrifenedig.
Cadarnhaodd R. Rowlands, tad yr hawlyddes, yr uchod, a chwanegodd y telid 10s, neu 1p. weithiau. Yn Nhachwedd diweddaf y talwyd olaf. Gwadodd iddo ddyweyd wrth dad y diffynydd yn Nhanybryn fod y cyfrif wedi ei setlo pan dalwyd 5p. y pryd hyny, ac fod Hugh Roberts yno ar y pryd, yn clywed yr ymddiddan. Nid oedd yn adnabod H. Roberts.
Dros yr ochr arall tystiodd William Roberts, tad y diffynydd, mai efe berswadiodd y mab i gyttuno, yn hytrach nag iddo groesi'r mor. Yr adeg yr oedd Griffith Roberts allan o waith y bu y taliadau yn anfynych. Y tyst neu ei wyres fyddai yn talu.
Dywedodd efe pan yn talu 5p. i R. Rowlands fod hyny yn unioni y cyfrif, ac yr oedd Hugh Roberts yn clywed. Dywedodd Hugh Roberts, asiedydd, i W. Roberts ddyweyd wrth R. Rowlands fod 5p. yn setlo y cyfrif. Adwaenai ef R. Rowlands, ac adwaenai R. Rowlands yntau.
Dyfarnwyd fod y diffynydd i dalu 13p. 15s.