Ar ôl rhai blynyddau o gystudd bu farw Mr. William Griffith, dydd Gwener Chwefror 20, yn 25 mlwydd oed, yn Llys Ednyfed, Penrhyn. Mab ydoedd i Mr. W. Griffith
a'r ddiweddar Mrs. Griffith, Glanmorfa, Tremadog. Yr oedd yn fachgen ieuanc o ymddygiad parchus, a Mr. a Mrs. Jones, Llys Ednyfed, yn dyner a charedig iawn
tuag ato yn ystod yr amser y bu yno. Cafodd gynhebrwng parchus ddydd Mawrth diweddaf, a rhoddwyd ei gorff i orwedd ym medd ei chwaer ym mynwent Penmorfa.