MARWOLAETH MR. EVAN HUMPHREY, PENMORFA.
Dydd Mercher, y 10fed, bu farw Mr. Evan Humphrey, Glan Morfa, Penmorfa, ar ol cystudd maith. Ganed ef 63 o flynyddoedd yn ol yng Nghae Owen, a threuliodd yr oll o'i ddyddiau yn ardaloedd ei faboed, gan ddilyn yr alwedigaeth o naddwr cerrig, a hynny am y rhan fwyaf o'i amser yn ngweithfa y diweddar "Mri. Richard Williams, a'i Fab," Porthmadog. Di-briod ydoedd, a chartrefai gyda'i chwaer a'i frawd yn nghyfraith, Mr. Richard Williams, a Mrs. Sydney Williams, Glan Morfa, y rhai fu yn garedig iawn wrtho hyd y diwedd. Yr oedd yn frawd tawel a heddychol, ac iddo air da gan bawb a'i hadwaenai. Yr oedd yn gristion pur, ac yn gymydog caredig a diasben, yn dyner a gofalus o'r amddifad, ac yn gyfaill wrth raid i'r tlawd a'r anghenus. Yr oedd yn Annibynwr selog, ac etholwyd ef yn foreu yn ddiacon yn eglwys Seion, Penmorfa. Ychydig o wyr ffyddlonach nag ef a fu'n gweinyddu'r swydd gydag unrhyw enwad.Gweithiai'n ddiwyd a di-orphwys o fewn cylch ei gyrhaeddiadau. Carai ei enwad yn fawr, ac eto heb gulni na chysgod o chwerwder. Bydd y golled ar ei ol yn fawr, a'i le yn wag yn hir.
Bu ei angladd ddydd Sadwrn, a daeth tyrfa fawr ynghyd i dalu gwarogaeth o barch i'r dyn a'r Cristion syml a chywir. Rhoed ei ran marwol i orphwys yn mynwent Penmorfa. Gweinyddwyd wrth y ty gan y Parchn. J. Edwards, a J. W. Edwards, sef gweinidog a chyn-weinidog ei eglwys. Oddiwrth y ty aed i gapel Seion, lle y cynhaliwyd gwasanaeth byr, a chymerwyd rhan gan y Parchn. Morris Thomas, B.A., gweinidog yr eglwysi Methodistiaid ym Mhenmorfa, a Bethel; W. Ross Hughes, Borth y Gest; J. W. Edwards; a J. Edwards. Tawel a fo hun y gweithwyr ymroddgar a phur.