PORTHMADOG.

COLLED I'R DREF.

Yn hanes y dref ac yn y cylch masnachol, nid oedd neb yn fwy adnabyddus ac anturiaethus na'r diweddar Mr Owen Roberts.

Bu farw foreu Sabbath, yn 68 mlwydd oed. Y mae blynyddoedd lawer er pan y dechreuodd ei fusnes fel saddler, ar gwr "y parc," yn masnachdy presennol Mr R. Jones, plumber. Bu drachefn yn swyddfa adnabyddus y Mri Lloyd-George and George, yn High-street, mewn lle tra chanolog, lle yr eangodd ei fusnes yn fawr. Symudodd wedi hyny i adeilad arall yn yr un parth prysur, a ddelir yn awr gan Mr D. R. Thomas. Yma, eangodd yn fawr gylch ei fasnach i fod yn ironmonger, gwerthu powdwr, ac un yn dal cyfranau mewn chwarelau.

Gwnaeth fasnach fawr a bron yr oll o gwmniau chwarelau Ffestiniog, yn enwedig y Welsh Slate, yr Oakeley's, a'r Mri Greaves, a'i Feibion.

Cyn diwedd ei yrfa lwyddiannus, adeiladodd un o'r masnachdai eangaf yn Ngogledd Cymru, yn y Park-square ac yma y bu y trefwr dyddan, siriol, a charedig farw. Y ffeithiau uchod yn unig a ddengys y meddiai graffder ac yni masnachol eithriadol, a choronwyd ei lafur a llwyddiant.

Gadawodd o deulu galarus ei wraig (Mrs Roberts), ei ferch (Mrs Capten Williams), a'r Misses Roberts, Mr R. 0. Roberts (mab), a phrif ofalydd am y busnes, a Mr W. H. Roberts, mab arall, yn awr yn Neheudir Affrica.

Cymerodd yr angladd le ddydd Mercher yn Mynwent Penmorfa. Yr oedd yn bresennol ynddo y cerbydau a'r personau a ganlyn :
1, Dr Griffith, ar Parch J. J. 'Roberts (M.C.);
2, Mr R. 0. Roberts (mab), Mir Hugh Roberts, Seacombe (brawd); Mr R. 0. Roberts, Criccieth (nai); Mr Thomas H. Roberts, Dolgellau (nai);
3, Mr N. T. Williams, Dolgellau; Mr John Owen, Niwbwrch, Mon; Mr John Parry, Abermaw; Mr R. Williams (y Meistri J. H. Williams a'i Fab);
4, Capten R. Williams, Porthmadog; Capten Jones, Marine, Criecieth; Mr R Isaac (y Meistri Owen, Isaac, ac Owen); Mr Willie Jones, Votty and Bowydd Wharf.

Gweinyddwyd yn y ty gan y Parch J. J- Roberts, ac yn yr eglwys gan y curad, y Parch Mr Richards. Gwnaeth Mr Roberts rai sylwadau ar lan y bedd wedi i'r gwasanaeth Eglwysig fyned trosodd.

Yr Herald Gymraeg 20/04/1897