BRYNCROES HUNO'N IEUANC.
Gofidus genym gofnodi marw Miss Kate M. Evans, Penybont, yr hyn a fu ddydd Mercher, Rhagfyr 4ydd.Claddwyd ei gweddillion marwol yn mynwent Penllech, lle roedd ei mam wedi ei rhagflaenu ers blynyddoedd. Daeth lluaws mawr o'i gyfeillion a pherthynasau ynghyd i dalu'r gymwynas olaf iddi. Gwasanaethwyd yn y tŷ, yr eglwys, ac ar lan y bedd gan y Parch J. L. Davies, Ficer Bryncroes. Cafodd gystudd blin am rai misoedd a ddioddefodd y cyfan yn dawel a dirwgnach.
Bu farw'n mlodeu ei dyddiau cyn cyraedd o honi ei 25ain oed. Yr oedd yn eneth ieuanc siriol a hawddgar, ac yn meddu ar gymeriad glan a dilychwyn, ac yn aelod cywir a ffyddlon o'r Eglwys.
Teimlir hiraeth dwys ar ei hol, a chydymdeimlir yn fawr a theulu Penybont yn eu profedigaeth.