PONTLLYFNI. MARW HEN FELINYDD.
Ar y 16 o Ragfyr, bu farw Mr Owen Roberts, Felin Cim, ar ôl cystudd byr, yn 63 mlwydd oed, a chladdwyd (cynhebrwng preifat), ym mynwent Tai Duon, Rhagfyr 20.Gwasanaethwyd gan y Parch. D. J. Davies, gweinidog capel Bedyddwyr Pontllyfni, lle yr oedd yr ymadawedig yn aelod.
Gadawodd ddwy chwaer a dau frawd i alaru eu colled.
Yr oedd y rhai canlynol yn bresennol yn yr angladd : Miss M. Roberts, Miss A. Roberts (chwiorydd); Mr W. Roberts, Mr J. Roberts (brodyr); Mri Robert Jones, Lleuar Bach; W. D. Hughes, Ty Mawr (blaenoriaid); David Hughes, Maes Mawr; Cledwyn Roberts, Hendy; J. O. Williams, Tanarau (blaenoriaid Brynaerau); William Roberts ...... Goronwy Hughes, Mrs Roberts, Miss Jones, Felin; Mrs Hughes Jones, Mrs Roberts, Penygroes; Mrs Griffiths, Rhostryfan; Mrs Capt. Lloyd Jones, Cae Glas; Mri Thomas Jones, Robert Hughes, William Jones, Robert Thomas, John Williams, Rhys Williams, H. R. Jones, Jackie Williams, Capt. Griffiths, Dicky Hughes.
Anfonwyd blodau gan y rhai blynyddol : Teulu Bryn Brych; teulu Cae Glas; Capt. Griffiths, Cartrefle; Mr a Mrs Humphreys, Bryn Mor.
Yn y tŷ yr oedd Mrs Jones, Brynaerau Cottage; Miss Jones, Lleuar Terrace a Misses Jones, Bangor.
Daeth Mr Roberts i fyw i'r ardal at ei daid a'i nain o Garn Dolbenmaen pan oedd yn unardeeg oed, a byth er hynny bu'n cadw y felin. Mab ydoedd i Mr a Mrs Humphrey Roberts, Ffridd Dderwig, Garn. Bu felly yn cadw Felin y Cim am tua hanner cant o flynyddoedd. Cymeriad tawel, boneddigaidd a hynod o garedig ydoedd. Yr oedd ty'r felin yn agored bob amser i bawb droi i fewn i gael ymgom oherwydd yr oedd yn hynod o felys ei sgwrs.