MRS. MARY ROBERTS. TY GWYN, RHOSTREHWFA GER LLANGEFNI.

MARW BRODOR.

Dydd Mawrth, Tachwedd 5ed, yn 74 mlwydd oed, bu farw Mrs. Mary Roberts, Ty Gwyn, Rhostrehwfa, ger Llangefni, Mon.

Merch ydoedd i'r diweddar Mr. a Mrs. Robert Jones, Galltyrungws, Abererch 9gynt), un o hen deuluoedd bro y Berch, ac yn fwy diweddar bu ei rhieni yn byw yn Rhesdai Creigiau Yokehouse.

Gweithiwr amaethyddol fu ei thad ar hyd ei oes, a chyfrifid ef yn un graenus ei waith ac iddo brofiad da, a bu yn gwasanaethu ar ffermydd mwyaf y cylch hwn ac hefyd mewn lleoedd yn Sir Feirionydd.

Yr oedd hi wedi gwneud ei chartref ers blynyddau ym Mon, ac yr oedd yn tra cymeradwy yn ei bro, pawb a'r gair gorau iddi.

Bu ei harwyl dydd Gwener diweddaf ym mynwent Tai Duon. Gedy un ferch a pherthynasau agos eraill, ac yn y cylch hwn Mrs. Evans, Y Gegin Cottage, Abererch (cyfneither): Mri. William Jones, Awelfryn a Robert Jones, Penbryn Huddugl, Abererch (cefndryd).

Cydymdeimlir a'r oll yn eu profedigaeth.

Yr Herald Gymraeg.