MARW MR. JOHN PIERCE, FRON OLEU.

Gyda gofid dwys y mae genym i gofnodi marwolaeth y gwr rhagorol uchod, yr hyn a gymerodd le nos Sadwrn, Mai 30, yn 77 mlwydd oed, ar ol rhai wythnosau o waeledd trwm, a ddioddefodd yn amyneddgar a dirwgnach. Yr oedd yn wr adnabyddus iawn i gylch eang a ddarllenwyr yr "Herald," fel amaethwr cyfrifol a llwyddianus yn ogystal ag fel crefyddwr a swyddog eglwysig. Brodor a ddaeth i'r gymdogaeth rhyw 44 mlynedd yn ol a ardal Ffestiniog ydoedd, a dadblygodd fel cymydog a chrefyddwr i fod yn wr o ddylanwad a defnyddioldeb mewn byd ac eglwys. Yr oedd ynddo lawer o nodweddion gwerthfawr a theilwng i'w hefelychu. Dichon mai yr elfenau amlycaf yn ei gymeriad ydoedd ffyddlondeb, pwyll, a lledneisrwydd, yr hyn a'i gwnaeth yn arweinydd ac yn swyddog diogel a llwyddianus yn eglwys M.C., yn y Garn, am 28 mlynedd. Bu yn drysorydd yr eglwys am 22 mlynedd. Cysegrodd ei nerth a llawer o'i amser i wasanaethu crefydd drwy ei oes. Un o rai llednais y tir ydoedd ef, wedi ei brydferthu a gras lawer. Yr oedd ei gymeriad crefyddol mor amlwg fel y dewiswyd ef gydag unffrydedd mawr i fod yn swyddog yr eglwys, a gweinyddodd y swydd gyda chymeradwyaeth hyd ei farwolaeth. Y fath oedd ei gymeriad a'i ddefnyddioldeb fel y gosodid ef i fod ar y blaen gyda phob symudiad. Disgynodd y gwaith o ofalu am gyllid yr eglwys i'w ran ef, a dangosodd yn y gwaith hwnw fawr ofal calon, gyda phryder am i'r oll fod yn gywir ac yn anrhydeddus. Cofir yn hir genym am y rhan effeithiol a gymerai yng ngwasanaeth cysegredig yr eglwys. Meddai wybodaeth lled dda o athrawiaethau crefydd, a safai yn uchel fel athraw da a llwyddianus yn yr Ysgol Sabbothol. Enillodd iddo ei hun le cynes yn mynwes yr eglwys y bu yn swyddog ynddi am gyfnod mor faith. Gadawodd le gwag ar ei ol, ac i'n golwg ni nid oes neb wna ei lanw. Bu ei hoff blant yn dyner a gofalus iawn o hono, a mawr fydd eu galar ar ei ol, a'i wyrion oll. Y mae yn aros dri mab a phedair o ferched, sef Mr. Wm. Pierce, Llwyn Mafon; John Pierce, Ystumcegid a P. Davies Pierce, Cefn Graianog; Mrs. J. Jones, Bettws Fawr; Mrs. Roberts, Plas ym Mhenllech; Mrs. Thomas Griffith, Cefngwyn, Talsarnau; a Mrs. Richard Jones, Taihirion, Bettws y Coed. Dydd Iau, hebryngwyd ei weddillion i dy ei hir gartref, at ei briod (yr hon oedd wedi ei ragflaenu rhyw naw mis yn ol) yn mynwent Tai Duon. Angladd anghyoedd ydoedd. Gwasanaethwyd yn y ty ac wrth y bedd gan weinidog yr eglwys, y Parch. E. Joseph a'r Parch. Henry Hughes. Cydymdeimlir yn fawr a'r teulu oeddynt mor hoff ohono, ac a'r eglwys sydd yn cael ei bylchu mor aml gan ymweliadau angau.

Herald Gymraeg 09/06/1914