BRYNENGAN.

ER COF.

Dydd Mawrth, ymdaenodd y newydd galarus am farwolaeth yr hen batriarch, Mr Griffith Williams, Ynysgaled.

Er ei fod wedi cyrhaedd ei 83 mlwydd oed, nid oedd neb yn Brynengan yn foddlawn i ollwng eu gafael ohono.

Gwasanaethodd y swydd o flaenor yn ffyddlawn am 60 mlynedd. Collodd ei dad pan yn ddeg oed, ac ymaflodd gyda'i fam weddw yn nyledswyddau crefydd.

Derbyniodd lawer o gynghorion gan ei ewythr, y Parch Richard Jones, Y Wern, a gwnaeth ddefnydd da ohonynt. Cyfeillachodd lawer a'r Parch John Owen, Gwyndy, gynt Ty'nllwynu, yn moreu ei oes, a mwynhaodd lawer gwledd yn nghwmni Robert Dafydd, Brynengan, a John Williams, Llecheiddior, mewn cyfarfodydd eglwysig yn Brynengan. Yr oedd pawb ai hadwaenai yn gorfod cydnabod ei fod yn gymydog caredig, yn Gristion gloew, ac yn ddiacon ffyddlawn.

Hebryngwyd ei weddillion i fynwent, Tai.

Yr Herald Gymraeg 04/05/1897