Y GYRIEDYDD WEDI EI LADD AC AMRYW WEDI EU HANAFU.
Nos Iau diweddaf cytarfyddodd y cerbyd modur mawr sydd yn rhedeg rhwng Pwllheli a Netyn a damwain ddifrifol iawn, yr hon a brofodd yn angeuol i Mr. Thomas Jones, Nefyn, y gyriedydd.Yr oedd y cerbyd yn dychwelyd o Bwllheli tua 5 o'r gloch, ac yn bur lawn o blant a phobl mewn oed. Cynwysai 15 o blant yn dychwelyd o Ysgol Ganalraddol Pwllheli. Pan yn agos i ben allt fawr Bodfean, yn ymyl yr Ysgol, stopiodd y cerbyd er rhoddi teithiwr i lawr. Pan yr oedd yn ail gychwyn torodd y brakes, a dechreuodd y cerbyd fyned yn ôl. Neidiodd yr Henadur G. Hughes Roberts a'r gofalwr (conductor) i lawr i daflu coed a cherryg o dan yr olwynion i geisio ei atal, ond methwyd. Llwyddodd y gyriedydd i'w hwylio yn igam ogam am amser, ond yr oedd yn enill cyflymdra yn barhaus, a phan welodd ei berygl gafaelodd mewn bachgen bychan oedd yn eistedd wrth ei ochr a thaflodd ef allan, a thrwy hyny achubodd ei fywyd. Yn y cyfwng hwnw aeth y cerbyd yn erbyn y clawdd yn y troad a throdd a'i wyneb yn isaf, gan ladd y gyriedydd yn y fan, ac anafu bachgen arall oedd yn eistedd yn ei ymyl yn ei ben yn ddifrifol.
Ychwanegid at y trychineb yn fawr gan y ffaith fod y noswaith yn dywyll iawn ac yn tywallt y gwlaw. Yr oedd y rhan fwyaf o'r teithwyr yn cael eu gwasgu o dan y cerbyd, ac yn gwaeddi yn dorcalonus am ymwared. Pan y ceisid rhyddhau un mewn un cwr rhoddid mwy o bwysau ar rhywun mewn cwr arall. Cymerodd yn agos i ddwy awr cyn y gallwyd rhyddhau yr oll, ac yr oedd tua haner dwsin wedi eu hanafu yn ysgafn. Symudwyd hwy i'r tai cyfagos, a gweinyddwyd arnynt gan Dr. R. Jones Evans, Pwllheli, a Dr. R. H. Griffith, Nefyn.
Yn mysg y teithwyr yr oedd Mrs. Ellis W. Davies, gwraig yr aelod Seneddol dros y rhanbarth, yr hon a anafwyd yn ei braich a'i chlust. Hefyd gwnaeth y Parch. G. Parry Hughes, Morfa Nefyn, a'r Henadur G. Hughes Roberts, y rhai oedd yn y cerbyd, eu goreu i ryddhau y rhai oedd dan y cerbyd. Yr oedd y gyriedydd tua 45 mlwydd oed, ac yn briod gyda nifer o blant.
Y TRENGHOLIAD.
Nos Wener cynhaliwyd trengholiad i achos marwolaeth Mr. Thomas Jones, y gyriedydd anffodus, yn Nefyn, gerbron Mr. O. Robyns Owen (crwner).Ymddangosai y Prif Gwnstabl a'r Arolygydd Owen ar ran yr heddlu, a Mr. Arthen O. Owen ar ran y Cwmni.
Tystiai Griffith Jones, gyriedydd perthynol i'r Cwmni, ei fod yn teithio yn y cerbyd ar y sedd flaen with ochr yr ymadawedig y noswaith dan sylw. Pan oeddynt bron ar ben yr allt ataliwyd y cerbyd er rhoddi teithiwr i lawr. Yna gwelodd yr ymadawedig yn ceisio rhoddi y peiriant mewn gafael, ac ar unwaith dechreuodd y cerbyd redeg yn ôl. Aeth ef a'r Henadur G. Hughes Roberts, yr hwn a eisteddai yn ei ymyl, i lawr i geisio rhoddi cerrig o dan yr olwyn er ei atal. Ond nis gallent gael cerrig, a pharhai y cerbyd i enill cyflymdra nes o'r diwedd yr aeth i wrth-darawiad a'r clawdd ger y Lodge, a throdd a'i wyneb i waered. Gwnaeth y gyriedydd ei oreu i'w gadw ar ganol y ffordd trwy sefyll ar ei draed ac edrych yn ôl. Credai i'r gyriedydd geisio gweithio y brake llaw yn lle yr un sydd yn gweithio gyda'r troed. Nid oedd yn arferiad ganddynt i dynu y brake cyn rhoddi y peiriant mewn gafael. Nis gallai efe ddeall sut y bu i'r ymadawedig fethu atal y cerbyd.
Cadarnhawyd y dystiolaeth uchod gan Mr. G. Hughes Roberts, U. H., Edeyrn, yr hwn ddywedai iddo neidio i lawr gyda'r bwriad o roddi carreg o dan yr olwyn atal y cerbyd yn ei flaen. Ni feddyliodd ar y pryd fod dim perygl yn bod, ond pan aeth y cerbyd i le serth cynyddodd ei gyflymdra yn enbyd hyd nes yr aeth i wrth-darawiad a'r clawdd a throi a'i wyneb i waered yn y gwaelod. Nis gallai ddweyd beth oedd rhif y teithwyr oedd yn y cerbyd. Yr oedd y rhan fwyaf o honynt yn blant yn dychwelyd o Ysgol Ganolrtddol Pwllheli. Nid oedd yr un o'r teithwyr wedi ei anafu yn ddifrifol iawn ag eithrio un bachgen, yr hwn fu o dan y cerbyd am dros awr o amser. Llwyddodd gwraig Mr. Ellis W. Davies, A.S., i lusgo allan oddi tan y cerbyd. Anafwyd hi yn ysgafn yn ei breichiau a'i chlust, a dioddefai oddiwrth yr ysgytiad.
Rhoddwyd tystiolaeth i'r un perwyl gan Mr. Thomas Jones (conductor y cerbyd). Dywedai ef nad oedd ganddynt ddim bar haiarn y tu ôl i'r cerbyd i'w rwystro i redeg yn ôl. Ar adegau arferent gario bloc pren, ond nid oedd ganddynt yr un yn awr. Ceisiodd gael cerrig i'w defnyddio i'r un pwrpas, ond methodd a chael rhai.
Tystiai Mr. O. H. Parry, Nanhoron Hotel, Nefyn, Arolygydd y Cwmni, fod y cerbyd wedi ei archwilio yn ofalus ychydig ddyddiau yn flaenorol gan y trancedig, yr hwn oedd yn beirianydd medrus ei hunan. Byddent yn arfer archwilio yr holl gerbydau yn gyfnodol. Archwiliodd ef y brakes a'r peiriant ar ôl y ddamwain, ac yr oeddynt mewn trefn ac heb eu amharu. Nid oedd yr un o'r brakes na'r peiriant mewn gafael. Yn ateb i'r Prif Gwnstabl dywedai mai ei syniad ef ydoedd fod y gyriedydd wedi gollwng y brake o'i afael cyn rhoddi y peiriant mewn gafael. Yr oedd un o'r brakes yn ddigon cryf i ddal y cerbyd ar unrhyw allt rhwng Pwllheli a Nefyn. Addefai fod gorlwytho cerbydau modur yn effeithio i wanhau eu brakes, ond nid oedd y cerbyd hwn wedi ei orlwytho y tro hwn.
Tystiai Dr. R Jones Evans iddo gael ei alw i weinyddu ar y teithwyr. Yr oedd yr ymadawedig wedi ei ladd yn y fan trwy gael ei wasgu rhwng y cerbyd a'r ffordd. Nid oedd yr un asgwrn wedi ei dori ynddo, ac achos ei farw ydoedd iddo gael ei fygu. Nid oedd yr un o'r teithwyr wedi eu hanafu yn ddifrifol iawn. Dioddefai rhyw chwech neu saith ohonynt oddiwrth doriadau wedi eu hachosi gan y gwydr, a nifer arall oddiwrth yr ysgytiad.
Dywedai Mr. Robyns Owen. (Crwner) fod achos uniongyrchol y ddamwain yn aros yn gryn dipyn o ddirgelwch Ymddangosai fod y brakes a'r peiriant mewn trefn, ond bu i'r trancedig, mae'n amlwg, fethu a'u cymhwyso. Galwai ef sylw at y perygl o orlwytho cerbydau modur o'r fath, ac hefyd at y priodoldeb o'u cyflenwi a haiarn neu bloc y tu ôl i gyfarfod a digwyddiad o'r fath yma.
Dychwelwyd rheithfarn o farwolaeth ddamweiniol. Argymhellai y rheithwyr fod y Cwmni i barotoi bar haiarn y tu ôl i'r cerbydau yn y dyfodol.
Cynygiai Mr. Arthen O Owen bleidlais o gydymdeimlad a'r weddw a'r teulu, a sylwai fod y trancedig yn yriedydd gofalus a medrus.
Cefnogid gan flaenor y rheithwyr, ac ategid gan y Crwner, a phasiwyd yn unfrydol.