MARW MILWR O NEFYN.
Yr wythnos o'r blaen bu farw Mr. William Griffiths, Nefyn, yn Aberystwyth, lle yr oedd yn ymarfer gyda'r Gatrawd, Gymreig, hon yr ymunodd rhyw dri mis yn ôl.Ddydd Gwener, dygwyd ei weddillion i'w cladda gyda'r tren i Nefyn. Yr oedd Cyrnol Jones Roberts, Capten Williams Ellis, y Caplan, a nifer o filwyr yn bresenol. Unwyd hwy yn Mhwllheli gan nifer o filwyr o Bwllheli, a chafodd gladdedigaeth filwrol.
Gedy weddw a phlant ar ei ôl.