CWYMP ANFERTH DAU CHWARELWR.

Fel yr hysbyswyd yr wythnos o'r blaen, cyfarfyddodd William Mona Hughes, Old Town Hall, Nefyn, ac Owen Williams, Tanybwlch, Llithfaen, a damwain yn chwarel setts y Gwylwyd, Nefyn, ddydd Llun, Mai 11eg. Bu y blaenaf farw y nos Sadwrn dilynol.

Prydnawn Mawrth, cynhaliodd Mr. O. Robyns Owen, drengholiad ar y corph yn Neuadd Madryn. Yr oedd Mr. O. R. Jones, arolygydd y mwnfeydd, yn bresenol. Hefyd, ymddangosai Mr. W. Cradoc Davies, Pwllheli, ar ran y weddw.

Tystiwyd fod y trancedig yn 40 mlwydd oed, a chanddo wraig a thri o blant.

Dywedodd William Hughes, Lleiniau, ei fod yn gweithio yn y bonc islaw y trancedig pan gymerodd y ddamwain le. Yr oeddynt yn archwilio y graig ar ol bo dyn saethu. Gweithient ar step yn mesur tua dwy lath. Gwelodd y trancedig ac Owen Williams yn syrthio i ddyfnder o tua 50 troedfedd a swm o graig yn disgyn ar eu holau. Gwelodd Williams yn sefyll gyda throsol yn ei law ddehau ac yn archwilio y graig, a gwelodd y graig yn eu taro i lawr. Yr oedd rhaff yn ei law chwith, ond nid oedd wedi sicrhau ei hunan ynddi. Yr oedd yno raff arall yn bellach oddiwrthynt. Yn ateb i'r arolygydd dywedodd fod y saethu wedi cymeryd lle ryw ugain munyd yn flaenorol i'r ddamwain. Nid oedd angen i'r gweithwyr ddiogelu eu hunain a'r rhaff gan fod ganddynt ddigon o le i sefyll.

Rhoed tystiolaeth i'r un preswyl gan Mr. Thomas Jones, Penbrynglas, yr hwn a dystiodd iddo gael yr ymadawedig mewn sefyllfa anymwybodol yng ngwaelod y graig. Symudwyd ef i ddiogelwch, a galwyd y meddyg i'w olwg.

Tystiodd Mr. John Owen, rheolwr y chwarel ei fod ef yn yr efail pan ddigwyddodd y ddamwain, ac aeth i'r lle ar unwaith. Yr oedd y gweithwyr yn chwilioam le i roddi powdr ar y pryd. Nid oedd ef wedi bod ar y step ers naw neu ddeg diwrnod, ond yr oedd yr ymadawedig yn chwarelwr profiadol, ac yn gwybod ei waith yn dda.

Rhoed tystiolaeth o berthynas i natur yr archollion gan Dr. Lewis, Nefyn, a bwriwyd rheithfarn mai marwolaeth ddamweiniol ydoedd.

Gweithredai Mr. W. Jones, ironmonger, fel blaenor y rheithwyr.

Herald Gymraeg 26/05/1914