MARWOLAETH.

Nos Sadwrn, Hydref 4ydd, ar ôl cystudd maith, bu farw Mr Thomas Jones, Llithfaen Fawr.

Cafodd weld a theimlo min ami i brofedigaeth chwerw tra yma, ond yn awr y mae tu hwnt i bob loes.

Ddydd Iau diweddaf hebryngwyd ei weddillion i fynwent M.C., a chyrchodd ugeiniau lawer i dalu y gymwynas iddo.

Tawelwch i'w lwch, a hedd i'w berthynasau yn eu profedigaeth lem.

Yr Udgorn 15/10/1913