CWYN COLL.
Drwg gennym groniclo marw sydyn Gwilym John, annwyl blentyn Mr a Mrs John H. Roberts, gynt o Compton House, Llithfaen, yr hyn a gymerodd le yn Abercynon, lle yr oedd ef a'i rieni wedi symud ers peth amser.Cymerwyd ef yn glaf o'r anwydwst a datblygodd yn pneumonia, ond bu farw er pob ymdrech a gofal yn yr oedran cynar o 16 oed.
Yr oedd yn gymeriad a hoffid yn fawr, ac yr oedd wedi ennill iddo enw da, fel y dengys llythyr a dderbyniodd ei rieni trallodus oddiwrth ei athraw yn yr Ysgol Sul, Mr. W. O. Thomas.
Cludwyd ei weddillion i Lithfaen a rhoed hwy i orphwys ym Mynwent y Capel. Gwaeanaethwyd gan y Parchn. W. T. Jones, Clement Davies, Hugh Williams, a Mr. Aidaan Davies.
Mae cydymdeimlad yr ardal a'r teulu yn eu profedigaeth Iem.