FOURCROSSES. ER COF.
Gofidus genym fel ardal ddeall am farwolaeth Mrs Mary Evans, Brynawel, Mynydd Nevin, yr hyn a gymerodd le ddiwedd y mis o'r blaen.Genedigol ydoedd o'r pentref hwn, a dechreuodd ei gyrfa fel athraw yn hen ysgol enwog Plasgwyn, ac oddiyno symudodd hi i'r un gwaith i ysgol Llithfaen, yn mha le y bu yn boblogaidd tu hwnt gyda'r plant, a chyda phawb yn y cylch am flynyddau lawer.
Yn ystod y cyfnod hwn yr oedd yn y boblogaidd iawn fel adroddes wych, yn feistres ar y gwaith; ac y mae nifer y gwobrwyon enillwyd ganddi yn dystiolaeth gref o hyny; hefyd, rhoddodd lawer o'i gwasanaeth mewn cyfarfodydd yn rhad pan byddai yr elw yn myned at gynorthwyo un mewn afiechyd, etc., ac mae llawer yma yn cofio hyd heddyw, ag yn ddiamen yn teimlo yn gynes at ei choffadwriaeth.
Yr oedd yn wraig rinweddol o ysbryd addfwyn, a hawddgar, ac yn uchel iawn ei pharch yn ei hardal. Ba farw fel y bu fyw.
Rhoddwyd hi i orffwys yn meddrod ei mam yn Llithfaen.
Cydymdeimlwn gyda'i phriod a'i thad oedranus a'r teulu oll yn eu dwfn drallod.