Damwain Angeuol i Ddyn o Lithfaen.
Foreu Mawrth diweddaf cyfarfyddodd Mr. Robert Griffith, 41ain oed, Victoria Terrace, Llithfaen, a damwain brofodd yn angeuol iddo yn Ngwaith Cyfarpar Queensferry. Yr oedd wedi myned yno i weithio ychydig amser yn ôl.Yn y trengholiad ddydd Mercher tystiwyd iddo fyned at ei waith oddeutu saith o'r gloch foreu Mawrth, ac ymhen ychydig amser i'r arolygydd glywed swn rhywun yn disgyn i'r pit. Aeth i'r lle ar unwaith, a chanfyddodd Griffith yn gorwedd yn y gwaelod, wedi disgyn chwe troedfedd. Yr oedd yn anhawdd dweyd sut y disgynodd, ond derbyniodd niweidiau difrifol i'w ben, a bu farw gynted ag y symudwyd ef i'r ysbytty.
Pasiwyd rheithfarn o ddamwain angeuol.
Deuwyd a'r gorph gartref, a chladdwyd ef ddydd Sadwrn ym mynwent Llithfaen.
Gedy weddw a thri o blant i alaru eu colled ar ei ôl.