MARW HENAFGWR.
Fore Sadwrn, yn 78 mlwydd oed, bu farw Mr John Jones, Brighton.Saer wrth ei alwed igaeth oedd yr ymadawedig ac yr oedd hefyd yn cadw siop grocer.
Yr oedd yn flaenor parchus gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac yn hen ŵr parchus a chymeradwy anghyffredin.
Gedy o'i ôl weddw, dwy ferch, a mab, sef Mr J. O. Jones (Arifog), y bardd a'r llenor adnabyddus.
Yr Udgorn 29/10/1913
CLADDEDIGAETH.
Fel y crybwyllasom yr wythnos ddiweddaf am farwolaeth yr hynafgwr parchus Mr John Jones, Brighton, claddwyd ei weddillion marwol ddydd Mercher diweddaf.Gwasanethwyd yn y tŷ gan y Parch. E. Morris, a chynhaliwyd gwasanaeth yn y capel er cof am dano, pryd y siaradwyd gan y Parchn. T. Jones, Portnant, ac H. Williams, Rheithor a'r Mri Henry Jones, Cilia, ac Evan Jones, i Llithfaen. Bu'r olaf yn gyd-swyddog a'r ymadawedig am ddeugain mlynedd, ac yr oedd yr adgofion a draethai am dano yn hynod deimladwy.
Bydd lle gwag ar ei ôl yn mywyd yr ardal, yr eglwys, a'r cartref a dymunem nawdd y nef dros y teulu yn y brofedigaeth chwerw.