LLANYSTUMDWY.

MARWOLAETH SYDYN.

Nid cynt yr aeth y llawenydd drosodd, nac y taflwyd y pentref i diistwch, yn ngwyneb sydynrwydd marwolaeth Miss Maggie Jones, y Felin.

Er ei bod yn gwaelu ers misoedd, eto nid oedd neb yn breuddwydio fod dydd ei hymddatodiad mor agos. Boreu Mawrth, wedi bod yn darllen yr "Herald Cymraeg," fe gyfododd o'i hystafell, ac aeth i fyny i'r llofft, ac wedi cyrhaedd yno fe syrthiodd ar ei gwyneb mewn gwasgfa.

Cyrchwyd meddyg, ond i ddim pwrpas. Geneth dawel iawn ydoedd ac yn aelod ffyddlawn o eglwys Moriah (M.C.).

Yr Herald Gymraeg 02/03/1897