MARWOLAETH CYN YSGOLFEISTR.

Mae'n ofidus genym gofnodi marwolaeth Mr. J. T. Jones, Bro Dawel, Llanbeblig Road, yr hyn a ddigwyddodd boreu dydd Sul, yn 66 mlwydd oed, ar ol cystydd poenus. Yr oedd yr ymadawedig yn bur adnabyddus yn y dref.. Bu'n ysgol-feistr Ysgol y Bwrdd yn y dref am dros ddeng mlynedd ar hugain, ac yr oedd yr ysgol yn llwyddianus iawn dan ei ofal. Ymneilltuodd oddeutu wyth mlynedd yn ol. Yr oedd yn aelod o Fwrdd Pysgota Seiont a Gwyrfai, ac yn weithgar iawn gyda'r Civic Guild of Help yn y dref. Bu yn wasanaethgar gyda'r achos yn Engedi, lle yr oedd yn aelod ffyddlawn. Bu'n arolygwr yr Ysgol Sabbothol, ac hefyd Ysgol y Plant am flynyddau. Bydd cryn golled ar ei ol mewn llawer cylch. Yr oedd yn un o gyfarwyddwyr y Clwb Rhyddfrydig, llafuriai yn galed gyda'r etholiadau yn y dref. Gedy weddw a phedwar o blant - dau fab a dwy ferch, gyda'r rhai y cydymdeimlir yn fawr. Cymer y gladdedigaeth (angladd anghyhoedd) le boreu ddydd Iau yn Llanrug.

Herald Gymraeg 16/06/1914