MARW A CHLADDU.
Ddydd Mawrth, bu farw Mr. Peter J. Thomas, Hermon Terrace, yn 38 mlwydd oed, ar ôl cystydd maith. Gadawodd wraig, mam weddw a phump o blant i aralu ar ei ôl.Efe oedd ysgrifenydd y blaid Geidwadol yn y plwyf. Yr oedd yn aelod selog yn yr Eglwys Sefydledig. Claddwyd ddydd Sadwrn, yn mynwent y plwyf, pryd y gwasanaethwyd gan y Parch. D. Rees, B.A. a Roberts (curad).