CLADDEDIGAETH.

Dydd Iau, hebryngwyd corph Mr. Robert E. Parry, 11, Edward Street, Caernarfon, i fedd yn mynwent Llanrug, yn 45 mlwydd oed. Symudodd o'r ardal hon flynyddau yn ôl, i wasanaeth yn swyddfa y "Genedl Gymreig." Cyn hyny, gweithiai yng Nglofa Dinorwig. Mab ydoedd i'r diweddar Mr. John Parry crydd, Penygroes. Cydymdeimlir a'i briod dyner, yr hon sydd yn ferch i Mr. a Mrs. William Jones, Caledfryn, a'i chwaer, sef priod Mr. R. Henry Jones, Celtic House, ynghyd ag unig ferch yr ymadawedig a'i fam weddw. Cafodd ein cyfaill fisoedd o gystydd, ond parhaodd i weithio gyda'i oruchwylion hyd y terfyn.

Cydnabyddir ef gan ei gydweithwyr yn y gloddfa, yn wr oedd yn meddu galluoedd arbenig. Bu yn aelod ymroddgar yn eglwyd Gorphwysfa am y blynyddoedd y bu ynddi, a chwith oedd gan bawb ei golli o'u plith. Nawdd y nef fyddo dros ei briod a'r ferch, a'r teulu oll.

Herald Gymraeg 24/03/1914