MR. WILLIAM THOMAS, PENYGAER, LLANDDEINIOLEN.
Marwolaeth a chladdedigaeth.
Mae gennym y gorchwyl pruddaidd o hysbysu am ymadawiad disymwth Mr. William Thomas, Penygaer, a'r fuchedd hon.Yr oedd yr ymadawedig yn wr parchus, cymwynasgar, a didderbynwyneb; cyfaill cywir, cymydog hynaws a charedig a Christion gloyw. Nid ydym yn gwybod am neb ag y sylweddolwyd y cymeriadau uchod yn well nag yn ein hen gyfaill.
Yn ei farwolaeth cafodd ei wraig golled anadferadwy. Fel cyfaill yr oedd yn bur a ffyddlawn; yr oedd yn meddu gallu naturiol i gadw cyfrinach, ac yn arfer yn gallu hwnw tu hwnt i'r cyffredin.
Nid yn aml yr oedd gwell cymydog nag ef i'w gael, trwy ei ddoethineb a'i ddistawrwydd yr oedd mewn heddwch a phawb. Nid oedd amheuaeth yn meddwl neb am gywirdeb ei grefydd. Yr oedd yn aelod ffyddlon gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ers yn agos i 40 o flynyddoedd, a chadwodd ei aelodaeth yn ddidramgwydd a difwlch hyd ei fedd. Bu yn athraw ffyddlon a gweithgar am 16 mlynedd ar bymtheg yn Ysgol Sabbothol y Glasgoed. Nid yn unig yr oedd yn ddyn da a defnyddiol gyda phethau allanol crefydd, ond yr oedd yn ddyn ysbrydol - yr oedd crefydd yn ei hegwyddor yn fywyd yn yr enaid.
Tachwedd 30ain cymerwyd ein brawd o fyd y gofidiau i wlad y perffeithrwydd tragwyddol, lle na ddywed yr un o'i Phreswylwyr, claf ydwyf; ar ol treulio llawn 62 mlynedd yn y byd hwn.
Rhagfyr 5ed daeth tyrfa fawr i hebrwng ei ran farwol i dy ei hir gartref yn mynwent Llanrug. Yr ydym yn tybied y buasai gweled canoedd o bobl o amgylch Penygaer yr rhoddi argraph ar feddwl dieithryn fod rhywun mawr ac anwyl yn cael ei gladdu y diwrnod hwnw. Dywed pawb na welsant gynifer o bobl mewn angladd yn y plwyf yma o'r blaen.
Gweinyddwyd wrth y ty gan y Parch. Griffith Thomas, Penisarwaen; yn y llan ac wrth y bedd gan y Parch. H. B. Williams, Llanrug. Heddwch i'w lwch.
Bydded i Dad yr amddifaid a Barnwr y gweddwon ofalu am y teulu trallodedig a phrofedigaethus.