Marwolaeth y Parch. John Morgan, Rheithor Edern.

Wedi goroesi yr addewid o bum' mlynedd, ehedodd enaid ein parchus Reithor at yr Hwn a'i rhoes. Ergyd drom ydoedd hon i'r teulu a'r plwyfolion, yn ogystal ag i lu o glerigwyr a lleygwyr yr Eglwys.

Yn ei ddydd, meddianai gyfansoddiad cryf, ac anfynych, os byth, y byddai y meddyg yn angenrheidinl. O ran person, nid oedd ei harddach yn y fro, ac o ran ei bersonoliaeth, yr oedd yn ddigymar. Byddai yn wastad yn hwyliog, a cheisiai ddiddanu pawb â geiriau caredig, fel y byddai yr amgylchiadau yn galw. Ymwelai yn fynych a'i braidd, a phan fyddai angen, ceryddai a chynghorai hwynt yn garedig. Edrychai pawb arno fel tad addfwyn a charedlg. Cofiai am y tlodion yn fynych, ac yn neillduol felly y Nadolig. Byddai ei law ddehau, yn fynych, yn rhoddi elusenau na wyddai ei aswy ddim am danynt. Gofalai fod y cymunwyr yn mynychu y gwasanaethau, ac os y digwyddai i rai o honynt fod yn absenol o honynt, mynai y rheswm pam.

I'r nodwedd yma o'i eiddo y gellir priodoli ffyddlondeb Eglwyswyr Edern yn yr oll o'r gwasanaethau. Yr oedd, yn ddiddadl, yn fugail da a ffyddlon, a hynod ofalus o'i braidd. Ystyrid ef yn un o'r pregethwyr mwyaf nerthol a galluog yn ei ddydd; yn wir, swynai gynulleidfaoedd mawrion a'i hyawdledd a'i athrylith hyd yn ddiweddar iawn. Yr oedd galwad mynych arno i lanw pwlpudau ar achlysuron pwysig, a hir gofir ei bregethau gan y rhai a'i gwrandawent.

Nodweddid ei bregethau gan wreiddioldeb, newydddeb, a bywiogrwydd, yr hyn a apeliai yn gryf at bawb. Hawliai ei bersonoliaeth hefyd ddylanwad anghyffredin ar y gynulleidfa fel y gwyr pawb a'i gwrandawai. Yr oedd yn hynod reolaidd gyda phob peth yn y tŷ a'r llan. Ni welid tŷ mwy rheolaidd yn unman - y gorphwys, prydiau, mwyniant, a Gair Duw yn eu hadeg, tra yn y llan byddai y gwasanaethau yn dechreu i'r funyd. Nid rhyfedd iddo ymadael yn dawel a gwên ar ei enau. Duw y trefn ydyw ein Duw ni, a disgwylia i ni fod yr un mor drefnus yn ein bywyd ysbrydol ag yn ein bywyd tymhorol. Gall y dyn a wna hyn fod yn dawel ei feddwl ymha beth bynag a wna, oblegid mae ei ran dda yn eiddo y Gwaredwr ac nid satan. Gall y duwiol fwynhau yn mhethau y byd yn well na dyn y byd, am ei fod wedi rhoddi ei serch yn gyntaf ar y pethau sydd uchod, Onid caru y pethau sydd uchod yn fwy na phethau sydd isod ydoedd gwaith ein parchus Reithor yn gwrthod bywoliaethau gwell o lawer nag Edern. Gwir ei fod yn gyfoethog, ac nid oedd raid iddo wrth ychwaneg o bethau y byd hwn, ond er hyny nid llawer fuasai yn gwrthod gwella eu hamgylchiadau pan y digwyddai cyfleusderau o'r fath.

Treuliodd ei yrfa golegawl yn St. Bees, ac urddwyd ef yn ddiacon yn y flwyddyn 1863, ac yn offeiriad y flwyddyn ddilynol. Yr oedd felly wedi gweinidogaethu dros y cyfnod maith o haner canrif. Yn sicr teilyngai yr orphwysfa sydd eto yn ôl i bobl Dduw. Dechreuodd ar ei weinidogaeth yn mhlwyf Llannor, a bu yno hyd y flwyddyn 1870. Oddiyno aeth i Ynyscynhaiarn (Porthmadog), lle y treuliodd saith mlynedd arall, gan weithio yn egniol a chydwybodol yn achos yr Arglwydd, ac enill enw iddo ei hun fel offeiriad llafurus a phregethwr nerthol. Yn y flwyddyn 1877, penodwyd ef yn Rheithor Carngiwch gyda Phistyll ag Edern, plwyfi gwledig ac anghysbell, ynghyd a ffyrdd blin ag anhygyrch i'w teithio. Eto ymwelai yn fynych a hwynt, a gofalai am y praidd hyd eithaf ei allu. Gwasanaethodd y pIwyfi hyn hyd y flwyddyn 1905, pryd y rhoddodd Carngiwch a Phistyll i fyny a chymeryd Edern yn unig. Trigiai yn y plwyf hwn er y flwyddyn 1877 bu felly yn ein plith am y cyfnod maith o ddeunaw mlynedd ar hugain.

Yn ngwyneb hyn anhawdd ydyw sylweddoli ei fod wedi myned 'ffordd yr holl ddaear.' Fel y dywedasom eisioes, meddai ar gyfansoddiad cryf a phob argoelion y goroesai ddydd ei ymddatodiad ond oddeutu tair blynedd yn ôl tarawyd ef ag ergyd o'r parlys, yr hyn a'i hanalluogodd i weinidogaethu mwyach. Pa fodd bynag, gwellodd yn dda oddiwrth ei afiechyd, ac arferai a myned oddi amgylch megis cynt, ond llesgaodd yn brysur yn ystod y tri mis diweddaf, a daeth y diwedd yn ei adeg.

Cludwyd ei babell ddaearol, ddydd Mawrth diweddaf i Lannor ond cyn cychwyn cafwyd gwasanaeth byr yn y tŷ - y Curad mewn -gofal yn gwasanaethu. Gwasanaethodd y Parch. T. E. Sheppard Jones, rheithor y plwyf, yn cael ei gynorthwyo gan Gurad Edern yn yr Eglwys, a'r Parch. D. T. Davies (mab-yn-nghyfraith) ficer Llwyngwril, ar lan y bedd (neu y Vault perthynol i'r teulu). Cynwysai y bedd hwn weddillion rhai wedi gweled dyddiau lawer fel y gwelir :- 82, 84, 91, 99 mlwydd oed, hefyd Mrs. Morgan yn 75, ac yn awr ein parchus Reithor yr un oedran. Ni chymer ragor gan i'n Rheithor lanw y lle diweddaf. Gwelwn iddo orphwyso oddiwrth ei lafur yn y plwyf y dechreuodd ar ei weinidogaeth gyntaf.

Yn unol a dymuniad y teulu, ni wahoddwyd ond ychydig i'r angladd, a chredent mai dyna fuasai ei ddymuniad yntau. Hoffai unigedd a thawelwch, ac felly ystyrid mai anoeth fuasai gwahodd llawer i'w angladd. Gwyddom fod llawer yn ewyllysio talu y gymwynas olaf, ac ereill wedi ysgrifenu llu o lythyrau i gydymdeimlo a'r teulu trallodus, a diolchwn iddynt am eu teimladau da.

Heblaw y rhai a nodwyd eisoes gwelwyd yn bresenol y rhai a ganlyn :- Parchn. Harry Morgan, M.A., (mab), Rheithor Beaumaris; J M. Lewis, (nai), Ficer Llanddeiniol; Mr. Hugh Hughes, Twrne, Aberystwyth; Dr. Griffith, Rhianfa, Nefin; Mri. Henry Williams (Churchwarden); Rowland Griffith, a Henry Roberts (Ystlyswyr), Griffith Roberts a Thomas Pritchard.

Gwelwyd yn yr Eglwys y Parch. J. a Mrs. Daniels, Rheithordy, Llandudwen; Parchn. D. E. Evans, Ficerdy, Llanfaes, Henry Thomas. Llandegfan, a Mr. G. Sheppard-Jones, Rheithordy, Llannor.

Cafwyd tywydd mawr o wynt a gwlaw y Sul diweddaf ond daeth nifer dda i'r gwasanaethau angladdol, a thalwyd y parch dyladwy i wrthddrych ein sylwadau. Diolch lawer i'r cor am ganu yr emynau cyfaddas mor dda, ac i'r organyddes am chwareu mor rhagorol, yn enwedig felly y 'Dead March' ar ddiwedd y gwasanaeth hwyrol. Ymwelodd y teulu â Llannor yn y boreu, pryd y pregethodd y Rheithor ar y geiriau, 'Am hyny yr wyf yn attolwg i chwi, frodyr, er trugareddau Duw,' allan o'r Epistol am y dydd. Dywedodd bethau da, amserol, a gwerthfawr. Pregethodd curad Edern yn yr hwyr oddiar y geiriau, 'Yn nyddiau ein blynyddoedd,' allan o'r ail Psalm yn ngwasanaeth y claddu. Geiriau priodol gan i'n diweddar Reithor, yn herwydd cryfder ei gorph, oroesi yr addewid. Ond manteisiodd ar ei gryfder trwy wneyd iawn ddefnydd ohono, ac nid ei esgeuluso fel mae arfer rhai. Sylweddolai mai teml yr Ysbryd Glan ydoedd ei gorff, a pharchai ef fel y cyfryw. Yr hyn a orweddai tu ôl i'r arddangosiad yma o'i eiddo ydoedd ei gymeriad heb gymeriad o'r fath, ni allasai draethu y genadwri gyda'r dylanwad a'i nodweddai buasai 'fel efydd yn seinio, neu symbal yn tincian.

Dymunwn ddatgan ein cydymdeimlad mwyaf dwys â Mrs Davies (y ferch), Ficerdy, Llwyngwril, a'r Parch. Harry Morgan, Beaumaris, yn eu trallod. Duw fyddo yn gysur iddynt yn eu hadfyd, ac y caffont nerth yn ôl y dydd i ddal y brofedigaeth chwerw. Bydded i ninau weddio llawer ar i'r Arglwydd anfon dyn gweithgar a chymwys i lanw y bwlch. Gwir mai yr Esgob sydd yn dewis ond yr Arglwydd sydd yn ei arwain i wneyd hyny. Yn swn yr amgylchiad pruddaidd sydd wedi ein goddiweddyd, temptir ni i ganu gyda'r bardd -

Mae'n hyfryd meddwl ambell dro
        Wrth deithio anial le,
    Ar ôl ein holl flinderau dwys,
    Cawn orphwys yn y ne'       J.B.J.

Y Llan 15/01/1915