ANGLADD SURGEON-GENERAL ELLIS.

Cymerodd angladd Surgeon-General P. M. Ellis, Rhyllech, Ie yn Llannor, ddydd Mawrth, ar ôl marwolaeth sydyn ac annisgwyliadwy y Gwener blaenorol.

Yr oedd wedi ymneillduo o'r Indian Medical Service chwe' blynedd yn ôl a gwnaed ef yn Ustus Heddwch bedair blynedd yn ôl, a bu'n gyson ar fainc ynadol Pwllheli. Yn ystod y rhyfel gweithiodd yn galad fel cyfarwyddwr anrhydeddus i'r Groes Goch.

Yn yr angladd cariwvd yr arch ar gerbyd Y Fferm, a'r faner "Union Jack" drosti gyda'i helmet a chleddyf y gwron arni. Yr oedd yr angladd yn un preifat hyd at Lidiart Llwyn Beuno. Yna yn agored i'r cyhoedd. Y prif alarwyr oeddynt Mrs. Ellis (gweddw), Captain Neville Ellis a Master Valentine Ellis (meibion). Miss Ellis (chwaer) Mri. Ellis a Robin Ellis (brodyr), ac ymhlith eraill yr oedd yn bresennol General a Mrs. Travers, Llundain. Col. Lloyd Evans, Broomhall; Major Wigham a Captain Freeman,

Gwasanaethwyd gan y Parch. T. E. Sheppard Jones, Rheithor.

Yr Herald Gymraeg 27/05/1919