FOURCROSSES.
CYMERIAD GWREIDDIOL.
Yn ddiweddar, ymadawodd a'r fuchedd hon, un o gymeriadau mwyaf gwreiddiol, siriol a diddan yr ardal hon, ym mherson Mr. Elias Hughes, y teiliwr.Gellid ysgrifenu llawer am dano, fel y cyfryw. Gresyn na wneid hyny yn gystal ag am lawer o rai tebyg iddo.
Dyma fel y canodd Cybi am dano,
Dyn o dalent, - yn deiliwr - dihafal;
Difyr iawn ymgomiwr;
A "Duw Elias," yn Dŵr
Cryf, feddai y crefyddwr.