DAMWAIN DOST I FEDDYG YN LLEYN.

Cyfarfyddodd Dr Ellis T. Evans a damwain dost iawn pan yn mynd ar motor-bicycle ger Llanor. Cafwyd ef yn gorwedd ar ganol y ffordd yn gwbl anymwybodol dan y peiriant, ac yn gwaedu yn ddifrifol.

Symudwyd ef i Rheithordy Llanor a gweinyddwyd arno gan Dr. R. Jones Evans. Pwllheli.

Anafodd ei wyneb yn dost iawn a thorodd ddau asgwrn ei goes dde yn bur ddrwg.

Yr Herald Gymraeg 11/04/1916


DAMWAIN ANGEUOL DR. EVANS, ABERSOCH.

Nos Fercher bu farw Dr Ellis T. Evans, Abersoch, mewn canlyniad i'r ddamwain a dderbyniodd gyda'i fodur-ddeurod ger Llanor fel yr hysbyswyd yn fyr genym yr wythnos o'r blaen.

Nid oedd Dr Evans ond 38 mlwydd oed ac yr oedd wedi cwblhau ei gwrs fel meddyg naw mlynedd yn ôl. Bu yn gwasanaethu fel meddyg yn y De, ac yn y fyddin ac yn mis Tachwedd diweddaf daeth i Abersoch fel olynydd i'r diweddar Dr O. J. Evans, yr hwn a fu farw yn dra sydyn. Mab ydoedd i'r diweddar Gapten Evans, Mela, a gedy wraig a geneth fach a brawd a chwaer i alaru ar ei ôl.

Y TRENGHOLIAD.

Nos Iau, yn Rheithordy Llanor, lle y bu y trancedig farw, cynhaliwyd trengholiad ar y gweddillion gerbron Mr O Robyns Owen, trengholydd, a rheithwyr, gyda Mr. J. Hughes Parry, U.H., Llanor, yn flaenor iddynt. Yr oedd yr Arolygydd Owen a r Rhingyll Lloyd, Pwllheli, yn bresenol ar ran yr heddlu.

Tystiodd Mr David William Evans, Mela, fod y trancedig yn frawd iddo ef, ac yn 38 mlwydd oed.

Mynegodd Mrs Margaret Jones, Llanor, ei bod hi a'i gwr wedi clywed twrw y modur yn myned i wrthdarawiad a'r bont ger y pentref tua 7.30 nos Sadwrn. Pan aeth ei phriod yno cafodd y meddyg yn gorwedd yn anymwybodol o dan y peiriant modur ar y ffordd. Bu i'w gŵr godi y modur i fyny ac aeth hithau i chwilio am gynorthwy.

Tystiodd y Parch Shepherd Jones, Rheithor, Llanor, ei fod ef wedi cyrhaedd y bont lle y digwyddodd y ddamwain cyn pen deng munyd. Gwelodd fod y meddyg wedi derbyn niweidiau difrifol iawn, ond yr oedd ei waed yn curo yn gryf. Anfonodd rywun i gyrchu meddyg, lapiodd glustogau o gwmpas y trancedig a buont yn gwylio rhag ofn i'r cerbydau a'r beisicls fyned ar ei draws gan ei fod yn gorwedd ar draws y ffordd. Daeth Dr R. Jones Evans, Pwllheli, i'r lle yn mhen tri chwarter awr. Symudwyd ef i'r Rheithordy, ac ni ddaeth ato ei hun o gwbl a bu farw tua 5.30 nos Fercher fel y mynegwyd.

Dywedodd Mr Griffith Wlilliams, Motor Garage, Abersoch, ei fod wedi archwilio y peiriant modur ar ôl y ddamwain a chael allan fod y gadwen yn mhen blaen y beisicl wedi myned i mewn i'r spring yn y fforc flaen a thrwy hyny rwystro y gyriedydd i droi y peiriant yn briodol yn y drofa.

Yn ateb i'r Crwner, dywedodd ei fod o'r farn mai cyn y ddamwain yr oedd hyn wedi digwydd, ac nid mewn canlyniad i'r ysgytiad yn y gwrthdarawiad. Yr oeddynt yn loewon, yr hyn a brofai eu bod o'u lle ers peth amser. Gofynodd y blaenor pa gyfrif a roddai o'r ffaith fod y trancedig wedi gallu troi yn llwyddianus mewn troad llawer mwy sydyn pan yn troi o'r brif-ffordd i gyfeiriad Llanor. Atebodd nad oedd y gadwen yn rhwystr i'r peiriant droi i'r ochr dde o gwbl.

Yr Arolygydd Owen: Ai onid peth hollol naturiol ydoedd i'r gadwen fyned o'u lle yn y godwm?

Y Tyst: Fy marn i ydyw eu bod wedi myned o'u lle yn flaenorol.

Tystiodd Mr Evan Hughes, Efailnewydd. ei fod wedi gweled Dr Evans ger y Farmers Arms, Efailnewydd, tua 6.30 nos Sadwrn. Deuai o gyfeiriad Pwllheli. Edrychai yn bur gynhyrfus, a gofynodd iddo ef ei gynorthwyo i ddod i lawr oddiar gefn y modur gan fod ei lodrau wedi myned yn rhwym o dan y belt. Yna gofynodd y meddyg iddo roddi y modur ar ben y ffordd i fyned i gyfeiriad Bryntani gan fod y gwas yno wedi ei anafu. Yna aeth y trancedig i mewn i'r Farmers Arms a daeth y ferch yn ôl ato ef yn mhen ychydig i ddweyd fod ar Dr Evans eisiau ei help i gychwyn y modur gan fod yno gerryg ar y ffordd ac edrychai yntau yn ofnus iawn am fod ei goes wedi myned yn rhwym yn y modur yn flaenorol. Bu iddo gychwyn ar y ffordd i gyfeiriad Bryntani.

Mr J. Hughes Parry: Ni bu yn Bryntani y noson hono.

Y Tyst: Daeth yn ôl i'r pentref yn mhen tua haner awr o'r un cyfeiriad i chwilio am betrol ac yna aeth ynmlaen i gyfeiriad Llanor.

Yr Arolgydd Owen: Yn mha gyflwr yr oedd Dr Evans?

Tyst: Wel, yr oedd yn edrych dipyn yn gynhyrfus, ond yr oedd yn cerdded reit syth.

Yr Arolygydd: A oedd yn sobr? Y Tyst: Nid wyf yn feirniad ar beth fel hyn, ond gan belled ag y gwelwn, yr oedd yn sobr.

Yr Arolygydd: Paham yr oedd y plant wedi ymdyru i'r lle?

Y Tyst: Wel, yr oedd y meddyg dipyn yn gynhyrfus. Yr oedd wedi bod ar ei draed am dair noson yn olynol yn dilyn ei alwedigaeth a theimlai braidd yn ofnus gyda'r modur gan nad oedd wedi arfer llawer ag ef.

Yr Arolygydd: A oedd yn ddigon sobr i yru modur ddeurod ar ffyrdd trofaus fel sydd yn yr ardaloedd hyn?

Y Tyst: Ni chafodd ond un botel o gwrw yn y Farmers' Arms, ac ni yfodd ond un ran o dair ohoni.

Yr Arolygydd: Paham y bu i chwi anog pobl y Farmers' Arms i beidio rhoddi rhagor o ddiod iddo?

Y Tyst: Am ei fod yn edrych yn gynhyrfus a dychrynedig.

Y Blaenor: Dowch, atebwch y cwestiynau yn glir.

Y Tyst: Yr wyf wedi dweyd cymaint ag a wn i am yr achos.

Yn ateb i Mr W. J. Williams (un or rheithwyr) dywedodd mai y rheswm dros iddo ef gynorthwyo y meddyg i fyned ar gefn y modur ddeurod ydoedd fod yno geryg ar y ffordd a'r meddyg heb arfer gyda'r modur. Sylwodd fod pen blaen y modur yn anystwyth iawn wrth ei lywio.

Y tyst nesaf ydoedd Mr Robert J. Jones, bicycle a motor repairer, Efailnewydd. Dywedodd ef i'r trancedig alw yno i ymofyn petrol ychydig wedi saith nos Sadwrn. Bu iddo lywio y modur i'r troad i gyfeiriad Bodfean. Yr oedd y llyw yn hollol ystwyth ac ni chaed unrhyw anhawsder i'w droi.

Yn ateb i'r Crwner dywedodd nad oedd dim o'i le yn y gadwen a'r springs. Cydnabyddai y gallasai gwaith y trancedig yn troi yn sydyn iawn yn y troad o'r ffordd fawr i gyfeiriad Llanor effeithio ar y gadwen, ac y buasai hyny yn ei gwneyd yn anhawdd i'w droi i'r chwith drachefn ac yn prysuro ei gvflymdra ac yn ei gwneyd yn anhawdd i'w atal.
Yr Arolygydd Owen: Yn mha gyflwr yr oedd y trancedig?

Y Tyst: Wel. yr oedd rhywbeth yn mater arno.

Yr Arolygydd: Beth oedd y rhywbeth hwnw ?

Y Tyst: Wel, yr oedd yn edrych fel dyn mewn diod. Nid oedd yn siarad fel fo ei hun, ond nid oes genyf fi brofiad o effeithiau y ddiod, felly nid wyf yn awdurdod ar y mater.

Yr Arolygydd: A oedd yn ddigon sobr i yru y modur ddeurod yma trwy y ffyrdd croesion yma?

Y Tyst: Wel, fe welais i rai meddwach nag ef yn myned yn llwyddianus os mai meddw oedd o. Ychwanegodd y tyst nad oedd y trancedig yn gyfarwydd o gwbl a gyru modur-ddeurod, ac yr oedd yn dra anhylaw ar ei oreu gyda hwy.

Desgrifiodd Dr. R. Jones Evans, Pwllheli, nodwedd yr archollion a'r niweidiau a dderbyniodd y trancedig. Yr oedd wedi tori asgwrn ei goes dde yn ddifrifol, yr hyn oedd wedi achosi gwaed wenwyniad. Yr ydoedd hefyd wedi tori asgwrn y pen yn y rhan flaenaf, yr hyn oedd yn ddigon ynddof ei hun i gyfrif am ei farwolaeth. Yr oedd ei farwolaeth yn ganlyniad y ddau beth uchod yn ogystal a'r ysgytwad a gafodd yn y godwm. Bu iddo ef ei ymgeleddu a rhoddi ei goes yn ei lle, oni ni adfeddianodd ei ymwybyddiaeth o gwbl.

Sylwodd y trengholydd nad oedd neb yn llygad dyst o'r ddamwain. ond yr oedd pob profion fod y trancedig wedi derbyn pob gofal a charedigrwydd ar ôl i'r ddamwain ddigwydd. Yr oedd teulu yn garedig a gofalus iawn ohono. Yr oedd yn anhawdd gwybod sut y daeth y modur i wrthdarawiad a chlawdd y bont, ac yr oedd yn syndod na bai y trancedig wedi ei daflu i'r afon. Yr oedd syniad y tyst Griffith Williams gyda golwg ar y gadwen yn naturiol iawn ac yr oedd Mr. R. J. Jones yn cadarnhau hyny. Ond nid oedd y cwbl ond tybiaeth. Gyda golwg ar gyflwr y trancedig ar y pryd yr oedd lle i ofni nad oedd yn yr ystad fwyaf priodol i ofalu amdano ei hun ac i reoli y modur ddeurod. Modd hyn, ag yr oedd y meddyg yn glir gyda golwg ar achos uniongyrchol marwolaeth ac nad oedd ganddynt ond dychwelyd rheithfarn yn unol a hyny.

Dychwelwyd rheithfarn yn unol a thytsiolaeth y meddyg.

Ar gynygiad Mr. J. Hughes Parry, y blaenor, yn cael ei ategu gan y trengholydd, pasiwyd bleidlais o gydymdeimlad a'r teulu yn eu profedigaeth lem.

Yr Herald Gymraeg 18/04/1916


MARWOLAETH.

'Yn nghanol ein bywyd yr ydym yn angau.'

Dyna hanes y diweddar Dr. Ellis Evans, Abersoch. Cychwynodd o'i gartref yn holliach ddydd Sadwrn, wythnos i'r diweddaf, ond pan ar bont Llannor, aeth ei fodur dau olwyn yn afreolus, gyda'r canlyniad iddo fyned yn syth i'r clawdd, ac yn y gwrthdarawiad clwyfwyd yn dost ei berchenog. Yn ffortunus, yr oedd yn agos i Reithordy Llannor, ac heb y petrusder lleiaf ar ran y teulu caredig, derbyniwyd ef i mewn, lle y cafodd bob chwareu teg a'r caredigrwydd mwyaf.

Ond yr oedd y Dr. wedi colli pob ymwybyddiaeth, ac yr oedd pob argoelion na oroesai ond ychydig ddyddiau. Diameu fod ganddo chwant i ymddatod gan mor dost ei archollion, a chafodd ei ddymuniad prydnawn ddydd Mercher, pryd yr ehedodd ei ran anfarwol at yr Hwn a'i rhoes.

Awd a'r gweddillion i Eglwys Llannor nos Wener, lle y buont hyd foreu Sadwrn, pryd y dodwyd hwynt i orphwyso yn mynwent y plwyf yn nghanol galar dwys y weddw a'r amddifad. Mae Lleyn wedi cael colled fawr yn yr amgylchiad alaethus hwn, canys yr oedd y Dr. nid yn unig yn adnabyddus i bawb, ond hefyd yn feistr ar ei waith. Yr oedd galwadau mawr am ei wasanaeth, a byddai bob amser yn barod i'w roddi gyda'r ewyllysgarwch mwyaf. Heddwch i'w lwch, a rhodded yr Arglwydd ras yn gymorth cyfamserol i'r weddw a'r amddifad yn eu profedigaeth.

Wele y prif alarwyr Mrs Evans (gweddw), Miss Muriel (merch), Mr. David Evans a Miss Evans (brawd a chwaer), Mr. W. Evans (ewythr), Mrs. Blade (cyfnither), Mr. D. E. Hughes, Mr. William Hughes, Mr. Bertie Howell, Mr. Evan Jones, Mr. Ellis Williams, Mr. David Evans (cefndryd).

Hefyd y cyfeillion â ganlyn :- Mrs. Lucas, Abersoch; Miss Sheppard-Jones Rectory; Miss Jones, Ty Isaf; Dr. Jones Evans, Pwllheli; Capt. Jones, Rockdale Mr. R. O. Griffith (chemist); Mr. Evan R. Jones (chemist), Pwllheli; Mr. Griffith Williams, Timber Yard, Abersoch, Mr. J. G. S. Sheppard-Jones, Rectory; P.C. Owen, Abersoch; Capt. Roberts, Abersoch; Mr. J. Hywel Roberts a Mrs. Jones, Cefn Mine.

Cludwyr y corph oeddynt :- Mr. Owen Williams, Galltberen, Mr. Tom Pritchard, Llannor Mills; Mr. Griffith Williams; Mr. William Owen, chauffeur.

Gwasanaethwyd yn yr angladd gan y Parchn. T. E Sheppard Jones, rheithor a J. Wheldon Griffith, Llangian. Yr 'undertaker' oedd Mr. Robt. Williams.

Anfonwyd plethdorchau gan a ganlyn :- Y weddw a'r ferch; Mrs. Lucas; Miss Ellen Jones, Ty Isaf, Rhydyclafdy; Mr. O. J. Evans a'r plant, Garth, Abersoch; Mrs. Roberts, Cwnhingar; Mr. a Mrs. Jonesa'r teulu, Shop, Llangian; Olgra a Rockdale; Miss Phillips; cyfeillion, Rheithordy, Llannor.

Y Llan 20/04/1916