LLANNOR.

Gyda gofid yr ydym yn cofnodi marwolaeth a chladdedigaeth y diweddar J. R. Jones. Brodor o Lannor oedd, ond yr oedd wedi bod yn offis cyfreithiwr yn Machynlleth am flynyddoedd.

Yr ydym yn deall ei fod yn fawr ei barch gan y rhai a'i hadwaenai.

Yr oedd yn ddefnyddiol yn y cylch Eglwysig, yn cymeryd dyddordeb mawr yn ngwaith yr Ysgol Sal. Cyn i'r brawd adael LIannor yr oedd yn llanw'r swyddi pwyslg pwyslg o ysgrifenydd yr Ysgol Sul a'r Cyngor Eglwysig, ac yr oedd ei ymadwiad o'r plwyf yn gadael bwlch mawr ar el ôl. Yr oedd yn Eglwyswr selog, ac yr oedd gwybodaeth yn gysylltiedig a'i sel.

Rhyw ddau fis yn ôl gwelodd y Doctor fod ein brawd yn dioddef oddiwrth y darfodedlgaeth, ac fe'i symudwyd I Yspytty Maerdy, Merthyr Tydfil, i geisio am wellhad. Ofer fu yr ymdrech, gan nad oedd yn unol ag ewyllys yr Arglwydd, yn yr Hwn yr oedd ein brawd wedi rhoddi llwyr ymddiriedaeth. Hunodd yn yr lesu ddydd Sadwrn, Rhagfyr 4ydd, gan adael gwraig a thri o blant bach i alaru ar ei ôl.

Dymunai ein brawd gael ei gladdu yn mynwent Eglwys Llannor. Yr oedd yr ymadawedig yn hynod hoff o Llannor, lle y ganwyd ac y magwyd ef.

Dygwyd yr hyn oedd farwol o hono i Llannor ddydd Iau i dŷ ei fam, ac fe gymerodd y cynhebrwng le y dydd canlynol (Gwener). Daeth ei feistr, Mr. Rowlands, cyfreithiwr, Machynlleth, yr holl ffordd i dalu y gymwynas olaf i'r hwn yr oedd mor hoff o hono. Gweinyddwyd wrth y tŷ, yn yr eglwys, ac ar lan y bedd gan y Parch. T. E. Sheppard-Jones, yr hwn hefyd a draddododd bregeth angladdol y nos Sul canlynol.

Ar ddydd y claddedigaeth canwyd y Psalm a dau emyn cymwys gan y cor a'r gynulleidfa, Miss Sheppard Jones yn chwareu y 'Dead March.' Chwareuwyd y 'Dead March' yn y gwasanaeth nos Sul hefyd.

Y mae chwith mawr genym ar ôl John Richard Jones. Huned mewn hedd.

- Cyfaill.

Y Llan 31/12/1915