Mary Williams, Glanrhyd, Llannor, : Will 1855.
Yn enw yr Arglwydd Amen.Yr ugeinfed ddydd o Tachwedd yn y flwyddyn o oed ein Harglwydd, un mil wyth gant a phedwar ar ddeg a deugain.
Myfi Mary Williams, Glanrhyd, gwyryf yn bod trwy fendith Duw mewn gwir ddwys agwedd meddwl a chorff, ond wrth alw i gôf ddaliad brenol y bywyd hwn, a bod yn osodedig i ddynion farw unwaith, ydwyf yn gwneuthur ac yn ordeinio hon fy ewyllys ddiweddaf, hyny am testament hyny ydwy, dywedyd yr ydwyf yn rhoddi cymyno ac yn ei drefn yn y dull a'r graddau canlynol.
Yn gyntaf yr ydwyf yn dymuno i fy mrawd Owen William, fod yn gymmun weinyddwr ar y cwbl sydd yn perthyn i mi.
Hefyd yn ydwyf yn rhoddi ac yn cymuno i fy chwaer Ellin ugain punt yn arian ynghyd a fy holl ddillad.
Hefyd yr ydwyf yn rhoddi ac yn cymuno i Cathrine merch fy chwaer Ellin bum punt (£5) o arian.
Hefyd yr ydwyf yn rhoddi ac yn cymuno i Ellin merch fy niweddar chwaer Ann ddeg punt (£10) ynghyd â gwely plu.
Ac yr wyf wrth hyn yn hollol un nghymeradwyo ac yn galw yn ôl, a diddymu pob testament, ewyllys, cymmynrodd arall, ond a enwyd ewyllysiwyd a gymmynrhoddwyd gan gymeradwyo a sefydlu hon fy ewyllys diweddaf am testament yn dystiolaeth o hyn yr ydwyf wedi rhoddi fy llaw a'm sêl wrthi ynghyd ar dydd ar flwyddyn y rhai ysgrifennwyd uchod.
A nodwyd a seliwyd a gyhoeddwyd a lefarwyd ac a benderfynwyd gan y dywededig Mary Williams, megis ei hewyllys a'i thestament yn ein presenoldeb ni y tanysgrifwyr.
Evan William
Robert Owen
On the 28th day of June in the year of our Lord 1855 the above written Will was insinuated proved approved and in common form of Law decreed valid and Administration granted to the above named Executor, Owen Williams, he being first sworn in common form of Law, and that the whole of the Goods Chattels and Credits of the said deceased do not amount in value to £100.
Before me Thomas Jones Surrogate.
The deceased died on the third day of December 1854.